Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

Dydd Mawrth 23 Mai 2023
O 10.00am
Gerddi Sophia, Caerdydd

Ymunwch â ni i ddathlu Pythefnos Gofal Maeth yng Nghaerdydd! Ddydd Mawrth, y 23ain o Fai, byddwn yn dod â’r gymuned faethu ynghyd i godi ymwybyddiaeth ac i ddathlu’r gwahaniaeth y mae maethu’n ei wneud i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Byddwn yn cyfarfod yng Ngerddi Sophia am 10.00yb ac yn cerdded ar hyd llwybr byr a hygyrch (llai na 2 filltir) o amgylch Parc Bute, heibio i Gastell Caerdydd, ac yn gorffen yn siop John Lewis yn The Hayes. Byddwn yn diweddu’r bore gyda lluniaeth a ddarparwyd drwy garedigrwydd ein cyfeillion yn John Lewis. 

I’n helpu i gynllunio’r diwrnod, a fyddech cystal â chwblhau’r ffurflen gofrestru fer hon i adael inni wybod y byddwch yn ymuno â ni.  

Os hoffech gefnogi’r Rhwydwaith Maethu wrth gerdded gyda ni, gallwch gofrestru ar gyfer Taith Gerdded dros Faethu neu sefydlu tudalen JustGiving ar gyfer rhoddion.  Gallwch hefyd brynu crys-T Taith Gerdded dros Faethu â chyfyngiad ar ei niferoedd cyn y digwyddiad er mwyn lledaenu’r neges am faethu wrth ichi gerdded. Os nad oes gennych grys-T, efallai y dymunwch wisgo rhywbeth lliw oren i adael i bobl wybod eich bod yn cefnogi Pythefnos Gofal Maeth.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.