Adroddiad yw’r ddogfen hon ar astudiaeth a geisiodd godi lleisiau plant ifanc, a oedd rhwng 3 a 6 oed yn ystod pandemig COVID-19, am eu profiadau o addysg bryd hynny. Mae’r adroddiad yn manylu ar y fethodoleg a ddefnyddiwyd yn ystod yr astudiaeth, sy’n cynnwys defnyddio dulliau creadigol a chyfranogol sydd wedi’u cynllunio i sicrhau y gallai ymchwilwyr glywed profiadau’r plant ifanc a’u cofnodi. Caiff llawer o fanylion am brofiadau’r plant ifanc eu cynnwys yn y penodau canfyddiadau.