Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

19 Mehefin 2023
9:30 AM – 4:00 PM
Online

Mae nifer yr achosion o broblemau iechyd meddwl ar gynnydd ymhlith pobl ifanc, ynghyd â hunan-niweidio ac anhwylderau bwyta. Nod y cwrs yw archwilio’r amrywiol anawsterau mae pobl ifanc yn eu profi gyda iechyd meddwl a sut mae meithrin gwydnwch a gwella llesiant.

Bydd y cwrs yn edrych ar y gwahanol fathau o broblemau iechyd meddwl, yr ymddygiad sy’n gallu cyd-ddigwydd â nhw, a sut mae cefnogi’r person ifanc. Cyflwynir amrywiol ffyrdd o feithrin gwydnwch, a dangos sut mae cynnal llesiant.

Mae’r cwrs hwn wedi’i fwriadu ar gyfer gweithwyr rheng flaen ac ymarferwyr sy’n gweithio gyda phobl ifanc sydd am gwella’u hymateb i bobl ifanc a’u gwaith gyda nhw.

Nodau:

  • Cynyddu ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl
  • Sicrhau gwell dealltwriaeth o broblemau iechyd meddwl megis iselder, pryder
  • Cynnig technegau i gefnogi pobl ifanc
  • Caffael sgiliau meithrin gwydnwch a chynyddu llesiant
  • Meithrin hyder wrth ddelio gyda’r materion hyn

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.