Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

5 Mehefin 2023
9:30 AM – 4:00 PM
Online

Nod yr hyfforddiant undydd yma yw galluogi staff rheng flaen sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i sicrhau bod ganddyn nhw ddealltwriaeth gadarn o ADHD, gwerthfawrogiad o’r gwahanol ffyrdd mae’n gallu amlygu ei hun, sy’n effeithio ar asesu a diagnosio plant a phobl ifanc, a hefyd ddealltwriaeth o’r risgiau cyffredinol sy’n gysylltiedig ag ADHD, a’r angen am ymyriadau meddygol a therapiwtig integredig i wella canlyniadau bywyd. Nod yr hyfforddwr yw bod y cyfranogwyr yn symud i ffwrdd oddi wrth ffocws un lens, a bod y cyfranogwyr yn gweld y plentyn/person ifanc cyfan, er mwyn medru gweithio cystal â phosib gyda gwasanaethau eraill.

Deilliannau Dysgu

  • Gwybod beth yw ADHD, gan gynnwys y symptomau mae plant a phobl ifanc yn eu profi
  • Bod yn ymwybodol o’r broses o ddiagnosio a rhwydweithiau cefnogi lleol
  • Gwerthfawrogi effaith bosibl ADHD ar blant a phobl ifanc
  • Byw gydag ADHD – nodi ffyrdd o gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag ADHD

Ar gyfer pwy mae wedi’i fwriadu?

Staff rheng flaen sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag ADHD a’u teuluoedd sydd am wella’u sgiliau a’u gwybodaeth er mwyn cynyddu eu hyder wrth nodi, cysylltu, cefnogi a chyfeirio’r plant, y bobl ifanc a’r teuluoedd hynny er mwyn gwella’r deilliannau i deuluoedd.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.