Cyhoeddwyd gyntaf yn Leicestershire Cares.

Y llynedd, gyda chyllid gan Ymddiriedolaeth Thomas Pocklington, cynhaliodd Tîm Addysg Leicestershire Cares brosiect i addasu ein hadnoddau addysg i sicrhau eu bod yn hygyrch i’w defnyddio gyda phobl ifanc â nam ar eu golwg. Fel rhan o hyn, cynhaliodd Leicestershire Cares raglen gyflogadwyedd beilot ar gyfer disgyblion ysgol â nam ar eu golwg. Datblygodd becyn i’w ddefnyddio mewn ysgolion a phecyn gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth yn y gweithle. Lansiodd Leicestershire Cares y pecyn hwn yng nghyfarfod diweddar eu Hyrwyddwyr.

Fel rhan o’r prosiect, gweithiodd Leicestershire Cares gyda grŵp llywio a oedd yn cynnwys nifer o fusnesau a nododd y prif feysydd pryder o ran cyflogi pobl â nam ar eu golwg. Y rhain oedd:

  • Arferion Iechyd a Diogelwch
  • Ystyriaethau allweddol ar gyfer cydweithwyr / rheolwyr yr unigolyn sydd â nam ar y golwg
  • Ffynonellau cymorth, gwybodaeth a chyfeiriadau at adnoddau defnyddiol

Mae’r pecyn yn rhoi manylion am y prosiect cyflogadwyedd, y cyd-destun a’r llwyddiannau. Mae’n cynnig gwybodaeth fanwl am Arferion Iechyd a Diogelwch, ystyriaethau allweddol i gydweithwyr a rheolwyr, a chyfeirio at ffynonellau cymorth a gwybodaeth. Mae Leicestershire Cares yn gobeithio rhannu’r pecyn hwn mor eang â phosibl er mwyn helpu i chwalu’r rhwystrau canfyddedig sy’n gysylltiedig â chyflogi pobl sy’n ddall neu sydd â nam ar eu golwg.

Mae copïau o’r pecyn ar gael ar ein tudalennau Deunyddiau Ymarfer.