Fe ges i fy ngeni yn Lloegr ond fe symudes i Gymru pan oeddwn i’n ifanc. 

Wrth dyfu, fe dreulies i amser mewn gofal maeth a gofal preswyl. Fe ges i fy nerbyn i ofal am y tro cyntaf pan oeddwn i’n 5 oed ac fe adawes i pan oeddwn i’n 16. Roeddwn i’n byw gydag un teulu maeth am lawer o’r amser hwn. Roedden nhw’n anhygoel ac roedd gennym ni berthynas dda. Fe es i drwy gyfnod gwrthryfelgar a chael seibiant oddi wrthyn nhw, ond fe es i’n ôl yn ddiweddarach. 

Fe ges i fy mhlentyn cyntaf pan oeddwn i’n 23 oed a fy ail pan oeddwn i’n 26. 

Beth mae bod yn rhiant yn ei olygu i chi? NEU Sut byddech chi’n disgrifio bod yn rhiant? 

Mae bod yn rhiant yn golygu popeth i mi, er y gall fod yn anodd iawn! Roeddwn i bob amser yn gwybod ‘mod i eisiau bod yn rhiant. Roeddwn i wedi cael dau gamesgoriad (y cyntaf pan oeddwn i’n 16 oed) ac roeddwn i wedi meddwl tybed a fyddwn i’n gallu cael teulu. 

Pan ges i wybod fy mod i’n feichiog yn 23 oed, roeddwn i’n hapus iawn ond roedd hefyd yn amser gofidus iawn ac roeddwn i’n meddwl y byddai rhywbeth yn mynd o’i le o hyd. 

Ydych chi’n credu bod eich profiadau wrth dyfu yn effeithio ar y ffordd rydych chi’n magu plant?  

Dwi’n credu 100% bod y ffaith ‘mod i wedi bod mewn gofal wrth dyfu wedi effeithio ar y ffordd rydw i’n magu plant. Roeddwn i’n meddwl tybed a fyddwn i’n rhiant da. Dwi’n gwybod nad oes y fath beth â rhiant perffaith ond roeddwn i wir eisiau bod yn un da. 

Dwi’n dal i feddwl am y peth heddiw ac mae fy mhlant yn 2 a 4 oed. Dwi bob amser yn meddwl, ‘ai dyma’r ffordd y dylai gael ei wneud, a ddylwn i fod wedi gwneud rhywbeth yn wahanol’? 

Pa gymorth ydych chi’n ei gael neu wedi’i gael gan weithwyr proffesiynol? 

Ches i ddim cymorth mewn gwirionedd. 

Pan oeddwn i yn yr ysbyty roedd y fydwraig yn gymwynasgar. Roeddwn i yno am 7 diwrnod ac roedd hi’n cadw golwg arna’ i o hyd.  

Roeddwn i’n ddigartref ar y pryd ac yn byw gyda ffrind a’i mam. Roeddwn i’n ddigartref ac yn aros i’r cyngor fy helpu gyda fy lle fy hun. Roeddwn i mewn sefyllfa fregus ac yn gwybod fy mod i’n cael fy manipwleiddio ond doedd gen i nunlle arall i fynd. 

Dwi’n dal i fod yn ddiolchgar i’r fydwraig oherwydd roedd hi’n gallu gweld fy mod i mewn sefyllfa fregus, roedd hi’n deall fy mod i’n poeni ynghylch ble roeddwn i’n mynd i fyw ac fe roddodd hi gefnogaeth i mi yn ystod galwadau ffôn gyda’r cyngor. Yn fuan wedi hynny fe ges i gynnig fy lle fy hun. 

Roedd gen i berthynas dda â’r ymwelydd iechyd ac fe ges i rywfaint o help gan elusennau lleol, ond roeddwn i ar fy mhen fy hun yn bennaf. Roedd yn anodd iawn ond dwi’n teimlo’n falch wrth edrych yn ôl nawr. 

Pa gymorth ydych chi’n ei gael neu wedi’i gael gan ffrindiau, teulu neu bobl yn y gymuned? 

Ar gyfer fy mhlentyn cyntaf, doedd gen i ddim ffrindiau na theulu i ddibynnu arnyn nhw. Bu farw fy mhartner yn annisgwyl yn yr wythnosau ychydig cyn yr enedigaeth, felly roeddwn i’n cael trafferth fawr â hynny. Roeddwn i hefyd yn byw gyda ffrind a’i mam ond doedd y sefyllfa honno ddim yn un iach. Er ei bod yn codi ofn arna’ i i gyfaddef hynny, roeddwn i’n gwybod fy mod i’n cael fy manipwleiddio a’m rheoli.  

Diolch i’r drefn, mae gen i system gymorth wych erbyn hyn. Mae fy mhartner yn wych ac rydyn ni’n rhannu gofalu am y plant o amgylch ein sifftiau dydd a nos. Mae teulu fy mhartner yn helpu hefyd ac mae gen i berthynas dda â fy mam yng nghyfraith. 

Dwi hefyd wedi aduno gyda fy chwaer sy’n byw yn weddol agos. Gyda ffrindiau o’r gwaith hefyd, dwi mewn sefyllfa hollol wahanol i’r un o’r blaen. 

Wrth edrych yn ôl, beth oedd yn ddefnyddiol neu ddim yn ddefnyddiol?  

Dyw’r gwasanaethau cymdeithasol ddim wedi bod o gymorth yn sicr! 

Yn ystod fy meichiogrwydd cyntaf, bu’n rhaid i mi fynd trwy asesiad. Yn ystod yr apwyntiadau iechyd, gofynnwyd i mi a oeddwn i wedi gadael gofal ac oherwydd fe ddwedes i fy mod i, fe wnaethon nhw atgyfeiriad i’r gwasanaethau cymdeithasol. Ni chynigiwyd unrhyw gymorth, doedd dim help, y cyfan wnaeth y broses oedd achosi straen i fi. Roedden nhw’n gwybod am fy sefyllfa a bydden nhw’n gofyn pethau fel ‘sut wyt ti’n mynd i ymdopi’ ond ni roddwyd unrhyw help. 

Pan ges i fy ail blentyn, digwyddodd yr un peth, fe ges i fy atgyfeirio i’r gwasanaethau cymdeithasol oherwydd gofynnwyd i mi a oeddwn i wedi bod mewn gofal. Y tro hwn roedd yn well, dim ond galwad ffôn ydoedd ac fe ddywedon nhw eu bod yn gallu gweld eu bod wedi gwneud asesiad o’r blaen. 

Ond fy mhrofiad gwaethaf gyda nhw oedd pan gafodd fy merch farc bach ar ei hwyneb. Doedd neb yn gwybod o ble y daeth. Roedd hi yn y feithrinfa, roedd hi’n dysgu cerdded, roedd llawer o godymau bach ar y pryd ac fe allai fod wedi digwydd yn unrhyw le.  

Trodd yr hyn a ddechreuodd fel marc bach yn fisoedd o uffern. Bu’n rhaid i fy merch fynd trwy gymaint o brofion, fe gawson ni ein cadw yn yr ysbyty o’r dydd Mercher i’r dydd Sadwrn er mwyn iddi gael amryw sganiau a phrofion gwaed. Roedd yn ofnadwy. Roedd mor ddiangen iddi – bu’n rhaid iddi gael ei rhoi i gysgu i gael un sgan. Doedd gen i ddim arian ‘chwaith, dim bwyd, dim newid dillad. Doeddwn i ddim yn gallu ei gadael hi a doedd dim hawl i ni adael nes bod canlyniadau’r profion wedi dod yn ôl. Roedd yn ofnadwy a dydw i ddim yn meddwl y bydda i byth yn dod drosto. Fe effeithiodd ar fy iechyd meddwl. Roeddwn i yn y coleg ar y pryd ac fe wnes i roi’r gorau iddi yn y pen draw oherwydd doeddwn i ddim yn teimlo y gallwn i ei gadael gyda neb. Mae hynny wedi aros gyda fi a hyd yn oed nawr dwi’n amharod i adael fy mhlant gydag unrhyw un. 

Dwi’n meddwl y ces i fy nhrin yn wahanol oherwydd roeddwn i wedi bod mewn gofal, mae ‘na stigma ac roedden nhw’n fy ngweld i fel risg. 

Pa gymorth / help fyddech chi wedi hoffi ei gael?

Byddwn i wedi hoffi cael rhywfaint o gymorth i fi. Dwi ddim yn credu yr oeddwn i’n barod i fod yn rhiant, doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Does neb yn dweud wrthych chi pa mor anodd ydyw. Mae hyn yr un peth ar gyfer mamau sydd wedi bod mewn gofal a’r rhai nad ydynt wedi bod mewn gofal. Fe ddylai rhywun fod yno i’r fam. Mae bydwragedd yno am gyfnod byr yn unig, mae ymwelwyr iechyd yno i’r babanod. Mae angen rhywun ar y fam. Ni ddylai gael ei orfodi arnoch os dydych chi ddim ei eisiau, ond fe ddylai fod ar gael fel opsiwn. Byddai wedi fy helpu i yn bendant.  

Mae’r Blog hwn yn rhan o’n cynhadledd ExChange, “Mae’n Cymryd Pentref: Safbwyntiau byd-eang ar rieni sydd â phrofiad o ofal”

I ddod o hyd i fwy o adnoddau ar y pwnc hwn edrychwch ar y cynadleddau isod