Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

21 Mawrth 2023
10.00am – 3.00pm
Ar-lein ar Teams

Mae dadansoddi asesiadau iechyd oedolion yn elfen allweddol wrth asesu mabwysiadwyr a gofalwyr maeth. Mae hyn yn cynnwys llunio adroddiadau a sylwadau ar sail tystiolaeth er mwyn i baneli allu wneud penderfyniadau priodol. Bwriad y gweithdy hwn yw rhoi cymorth i gynghorwyr meddygol yn eu gwaith. Mae’n arbennig o addas ar gyfer cynghorwyr meddygol newydd neu ddibrofiad.

Bydd y gweithdy hwn yn ystyried rôl y Cynghorydd Meddygol wrth wneud asesiadau iechyd oedolion ar gyfer gofalwyr maeth a rhieni sy’n mabwysiadu. Bydd yn ymdrin â:

  • yr hyn y mae’n rhaid ichi ei wybod i fod yn Gynghorydd Meddygol da ym maes mabwysiadu a maethu;
  • sut i ddehongli asesiadau iechyd oedolion a rhoi cyngor meddygol o safon i asiantaethau a phaneli mabwysiadu a maethu;
  • egwyddorion asesiadau iechyd oedolion, gan gynnwys enghreifftiau o sefyllfaoedd cymhleth a heriol;
  • cyngor ar iechyd oedolion mewn sefyllfaoedd pan fydd gwarchodaeth arbennig;
  • ymhlith y materion sy’n codi yn sgîl adroddiadau iechyd oedolion ac sy’n dod gerbron paneli y mae gordewdra, ysmygu, alcohol, iechyd meddwl a chlefydau cronig.

D.S. Cynhelir y gweithdy hwn ochr yn ochr ag asesiadau iechyd plant.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.