Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

Bydd y cwrs yma’n helpu cyfranogwyr i ddatblygu dealltwriaeth o’r system newydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) er mwyn cefnogi plant a phobl ifanc 0-25 yng Nghymru sydd ag ADY. Bydd y cwrs hefyd yn archwilio gweithrediad y system newydd.

Mae’r cwrs yma’n addas ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag ADY, neu’n eu cefnogi, gan gynnwys eu teuluoedd.

Bydd y cyfranogwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a rhannu profiadau sy’n berthnasol i gynnwys y cwrs.

Erbyn diwedd y cwrs, bydd y cyfranogwyr wedi dod i ddeall:

  • ADY yn y fframwaith a’r ddeddfwriaeth newydd
  • Gweithrediad y Ddeddf newydd

Mae’r cwrs yma’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gyflwyno gan Snap Cymru ar ran TSANA, a does dim rhaid talu i’w fynychu. Clymblaid o gyrff trydydd sector yw TSANA (Cynghrair Anghenion Ychwanegol y Trydydd Sector), sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, yn eu cefnogi ac yn eu cynrychioli. Caiff y Gynghrair ei hwyluso gan Plant yng Nghymru.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.