a dwi’n dod o’r Alban 

Wrth dyfu, fe dreulies i amser mewn gofal gan berthynas, ysgolion preswyl, llety diogel a chartrefi maeth. 

Fe ges i fy mhlentyn cyntaf pan oeddwn i’n 17 oed. Mae gen i 2 blentyn arall; roeddwn i’n 23 pan ges i fy ail blentyn a 27 pan ges i fy nhrydydd plentyn.

Beth mae bod yn rhiant yn ei olygu i chi? NEU Sut byddech chi’n disgrifio bod yn rhiant?  

Mae bod yn rhiant yn gyfrifoldeb enfawr sy’n rhoi cymaint o lawenydd i chi yn eich bywyd. Mae bod yn rhiant hefyd yn gallu bod yn heriol ac yn llethol ar adegau. 

Ydych chi’n credu bod eich profiadau wrth dyfu yn effeithio ar y ffordd rydych chi’n magu plant?   

Ydyn, mewn rhai ffyrdd, ond dwi hefyd yn credu bod gennym ni reddf famol yn barod a ph’un a oes gennych chi brofiad o ofal neu beidio, dydy’r cariad rydych chi’n ei deimlo tuag at eich plentyn ddim yn wahanol i rywun sydd heb fod drwy’r system ofal. 

Pa gymorth ydych chi’n ei gael neu wedi’i gael gan weithwyr proffesiynol?

Dwi’n teimlo nad oes unrhyw gefnogaeth GO IAWN. Mae’n fwy fel gwirio a blychau ticio pan fydd ymweliadau’n digwydd. Does dim ymdrech wirioneddol i gefnogi rhieni newydd sydd wedi bod trwy’r system ofal, ac nid oes unrhyw gefnogaeth sy’n ystyriol o drawma ’chwaith i rieni newydd ar ôl gadael gofal neu tra eu bod yn y system ofal o hyd. Mae llawer o ragdybiaethau, barnu a disgwyliadau y bydd y plentyn yn debygol o gael ei dderbyn i ofal, yn aml yn seiliedig ar gronoleg y rhieni yn ystod eu cyfnod mewn gofal.  

Dwi wedi sylwi wrth ddarllen fy ffeil fy hun mai dim ond y wybodaeth negyddol sy’n cael ei chofnodi, byth y pethau da. Er enghraifft, ar ôl cael fy mhlentyn cyntaf, fe ddechreues i fynd i’r coleg pan oedd hi tua blwydd oed. Fe astudies i’r Gwyddorau Cymdeithasol ac fe wnes i hyn am 2 flynedd. Does dim gwybodaeth am hyn wedi’i chofnodi ac mae hyn yn batrwm ar draws fy ffeiliau. Dwi’n teimlo bod hyn yn rhoi darlun anghytbwys o fywyd person, gan wneud y dyfarniadau a’r rhagdybiaethau y sonies i amdanyn nhw uchod yn annheg a heb fod wedi’u seilio ar yr HOLL ffeithiau.  

Yn aml, mae gweithwyr cymdeithasol yn symud ymlaen i rolau neu swyddi newydd yn weddol gyflym a gall un plentyn / person ifanc weld llawer o weithwyr cymdeithasol o fewn 5+ mlynedd. Felly, pan fydd gweithiwr cymdeithasol newydd yn cael ei neilltuo, mae’n darllen y wybodaeth flaenorol sydd ar gael iddo. Bryd hynny, fe all wneud dyfarniadau ynghylch sut mae’n credu y bydd pethau’n mynd, yn hytrach na ffurfio ei farn ei hun am achos person a phenderfynu pa gefnogaeth y mae angen ei threfnu.  

Yn fy mhrofiad fy hun, fe ofynnes i am gefnogaeth benodol, ac fe gymerodd hynny dipyn o ddewrder. Roeddwn i’n onest iawn ac yn agored am y problemau roeddwn i’n eu cael ar y pryd, a oedd yn cynnwys dibyniaeth a cham-drin domestig. Doedd dim cefnogaeth yn cael ei rhoi ar gyfer y materion hyn, ond cafodd fy merch ei rhoi ar orchymyn, ac yn fuan ar ôl hynny cafodd ei chymryd o’m gofal. Roeddwn i’n adnabod llond llaw o bobl yn fy ardal i bryd hynny, i gyd gyda’r un problemau, i gyd gyda phlant yr un oed â fy un i, i gyd â chysylltiad gwaith cymdeithasol. Dwi wedi meddwl weithiau, a oeddwn i’n darged hawdd i fy mhlentyn gael ei gymryd oddi arnaf oherwydd fy mhrofiad o ofal? Mae’n rhaid i mi ddweud, dwi ddim yn bychanu’r ffaith yr oedd angen cymorth arna’ i bryd hynny a dwi’n cymryd cyfrifoldeb llawn am fy ngweithredoedd ar yr adeg honno yn fy mywyd. Ond dwi’n credu efallai y byddai pethau wedi bod yn wahanol petawn i wedi cael y gefnogaeth iawn ar yr amser iawn. 

Pa gymorth rydych chi’n ei gael neu wedi’i gael gan ffrindiau, aelodau’r teulu neu bobl yn y gymuned? 

Roeddwn i’n ffodus iawn i gael fy Mam-gu. Fe fagodd hi fi o 5 i 13 oed ac mae hi wastad wedi bod yn gefn i fi. 

Wrth edrych yn ôl, beth oedd yn ddefnyddiol neu ddim yn ddefnyddiol? 

Fe hoffwn i ddefnyddio fy mhrofiad o fy mhlentyn ieuengaf i ateb y cwestiwn hwn. Mae e’ bron yn 4 nawr. Pan oeddwn i’n feichiog gydag e’, roeddwn i ar gam cynnar iawn o adfer o ddibyniaeth a doedd dim llawer o bobl yn credu ynof i bryd hynny. Roedd un o fy mhlant mewn gofal maeth hirdymor ac mae’r llall wedi cael ei fabwysiadu. Ond roedd gan fy mydwraig ar y pryd ffydd ynof i, a phan ddaeth yr amser i eistedd i lawr gyda gweithwyr proffesiynol, roedd hi’n credu ei bod yn deg rhoi cyfle i fi. Hefyd, roedd y gweithiwr cymdeithasol a gymerodd yr achos wedi cwrdd â fi ac roeddwn i’n teimlo ei bod hi wedi ffurfio ei barn yn seiliedig ar yr amser a dreuliodd hi gyda fi a’r asesiad rhiant a wnes i, yn hytrach nag unrhyw wybodaeth hanesyddol. Fe ddechreuodd hi gredu ynof i ac fe ges i gyfle i fagu fy mab a dod ag e’ adref. Cafodd lawer o gefnogaeth ei threfnu ac roedd gwahanol wasanaethau’n cymryd rhan. Roedd hyn yn rhywbeth roeddwn i’n ei groesawu. Dwi’n credu bod y gefnogaeth iawn wedi cael ei rhoi ar yr adeg iawn a hefyd bod y gefnogaeth honno wedi cael ei lleihau’n raddol ar yr adeg iawn hefyd. Dwi’n falch o ddweud bod fy mab bron yn 4 oed a dydw i ddim wedi cael unrhyw gysylltiad gwaith cymdeithasol o’r adeg pan oedd e’n 6 mis oed. 

Pa gymorth / help fyddech chi wedi hoffi ei gael?

O ran fy mhlentyn cyntaf, byddwn i wedi hoffi cael cymorth ar gyfer fy nibyniaeth a cham-drin domestig, oherwydd dyna beth oeddwn i’n delio ag e’ bryd hynny. Ond dwi’n teimlo y dylai pob person ifanc sy’n gadael gofal gael mynediad at gymorth digonol i’w helpu i oresgyn eu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Dwi’n credu y dylai hyn hefyd fod ar gael tra eu bod yn y system ofal. 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i weithwyr proffesiynol, sefydliadau neu lywodraethau i wneud magu plant / bod yn rhiant yn brofiad cadarnhaol i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn y dyfodol?

Gadewch i ni rannu’n agored ac yn onest gyda chi, heb ofni y byddwch chi’n cymryd ein plant i ffwrdd. Neilltuwch arian ar gyfer cyfleusterau byw mam a baban, fel y gall mamau a’u babanod newydd fynd iddyn nhw os oes ganddyn nhw broblemau dibyniaeth. Trwy wneud hynny, gall y fam a’i baban ffurfio cysylltiad a chael cyfle i aros gyda’i gilydd. Byddai hyn hefyd yn gweithio os oedd opsiwn i ofalwyr maeth dderbyn mam a baban. Rydyn ni i gyd yn fodau dynol, p’un a ydyn ni wedi bod trwy ofal neu beidio. Rydyn ni’n dal i garu ein plant ac eisiau’r gorau iddyn nhw. 

This Blog is part of our ExChange conference, “It Takes a Village: Global perspectives on care-experienced parents”

To find more resources on this topic check out the conferences below