Sylwch: Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn allanol ac nid trwy Exchange Wales. Mae rhestrau digwyddiadau allanol Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.

Bydd y cwrs yma’n helpu’r cyfranogwyr i ddeall y dyletswyddau sydd ar gyrff cyfrifol o dan y Ddeddf ADY ac archwilio pwysigrwydd a manteision cyfranogiad trwy ddull person-ganolog o gynllunio.

Mae’r cwrs yma’n addas i unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag ADY, neu’n eu cefnogi, gan gynnwys eu teuluoedd.

Anogir cyfranogwyr i gymryd rhan mewn trafodaethau grŵp a rhannu profiadau perthnasol i gynnwys y cwrs, a byddant yn archwilio manteision dulliau person-ganolog o feddwl.

Erbyn diwedd y cwrs bydd y cyfranogwyr wedi dod i ddeall cyfranogiad a’r dull gweithredu person-ganolog.

Mae’r cwrs yma’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gyflwyno gan Snap Cymru ar ran TSANA, a does dim rhaid talu i’w fynychu. Clymblaid o gyrff trydydd sector yw TSANA (Cynghrair Anghenion Ychwanegol y Trydydd Sector), sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, yn eu cefnogi ac yn eu cynrychioli. Caiff y Gynghrair ei hwyluso gan Plant yng Nghymru.

Nid yw Exchange Wales yn gyfrifol am unrhyw gynnwys neu adnoddau allanol.