‘O fyfyrwyr i raddedigion:  Archwilio cyfnod pontio ôl-raddio myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru’

Mae gan bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal rai o’r cyfraddau isaf o gymryd rhan mewn addysg uwch yn y DU ac maent yn profi heriau lluosog a chymhleth wrth lywio trosglwyddiadau i’r brifysgol ac annibyniaeth. Er bod ymchwil helaeth wedi tynnu sylw at y ffactorau sy’n hwyluso neu’n llesteirio mynediad myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal at y brifysgol, bu cryn dipyn llai o sylw i’w pontio o’r brifysgol i fywyd y tu hwnt iddi.

Mae ymchwil Dr Ceryn Evans ym Mhrifysgol Abertawe yn archwilio profiadau myfyrwyr prifysgol â phrofiad o ofal wrth iddynt lywio drwy’r brifysgol a chychwyn ar gyfnod o bontio o’r brifysgol i fywyd ôl-raddio. Nod yr ymchwil hon yw deall beth sy’n helpu myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal i bontio’n gadarnhaol o’r brifysgol i amrywiaeth o gyrchfannau, gan gynnwys astudio ôl-raddedig, gwaith, gwirfoddoli neu’i gilydd. Mae’r astudiaeth yn gobeithio creu mewnwelediadau newydd ynghylch y ffactorau sy’n hwyluso neu’n rhwystro pontio myfyrwyr â phrofiad o ofal, fel y gellir cefnogi cenedlaethau o fyfyrwyr yn y dyfodol yn well wrth bontio mewn modd cadarnhaol o’r brifysgol i fywyd ôl-raddio.   

Hoffai Ceryn glywed gan fyfyrwyr sydd â phrofiad o ofal mewn prifysgolion ledled Cymru, yn enwedig y rhai sydd yn eu trydedd flwyddyn neu’r flwyddyn olaf o astudio, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’u profiadau o’r brifysgol a’u gobeithion a’u cynlluniau ar gyfer pryd fyddant yn graddio. Hoffai glywed hefyd gan raddedigion â phrofiad o ofal, yn enwedig y rhai sydd wedi graddio yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf, i ddeall eu profiadau o raddio o’r brifysgol ac i ddeall y pethau sydd wedi eu helpu neu eu rhwystro wrth bontio o fyfyriwr i’r byd wedyn. 

Os hoffech gymryd rhan yn yr ymchwil, neu os hoffech wybod mwy am yr astudiaeth, cysylltwch â Ceryn Evans (Ceryn.Evans@swansea.ac.uk).