Ymddygiad Treisgar a Chamdriniol gan Blentyn/Person Ifanc yn Erbyn Rhiant/Gofalwr (CAPVA): Archwilio Dulliau Effeithiol o Wneud Ymchwil 

Bethan Pell — Ymchwilydd Ôl-raddedig, DECIPHer, Prifysgol Caerdydd

Dydd Mercher, 8 Mawrth 2023 rhwng 13:00 a 14:00

Cyflwyniad

Ymddygiad Treisgar a Chamdriniol gan Blentyn/Person Ifanc yn Erbyn Rhiant/Gofalwr (CAPVA), sy’n cael ei ddiffinio’n batrwm o ymddygiad niweidiol er mwyn arfer grym a rheolaeth dros riant (Holt 2013), yw’r math o gam-drin teuluol sy’n destun ymchwil leiaf ac sy’n cael ei ddeall leiaf. Mae’r llenyddiaeth sydd ar gael yn feintiol gan mwyaf. Felly, er mwyn meithrin dealltwriaeth o CAPVA, argymhellir ymchwil ansoddol (Oliver a Fenge 2020). Fodd bynnag, mae’r anghydbwysedd grym sy’n nodweddu CAPVA, yn ogystal â’r stigma a’r cywilydd a deimlir (Clarke et al. 2017), yn tynnu sylw at sensitifrwydd y pwnc, pa mor agored i niwed y mae’r boblogaeth hon, a’r angen i roi sylw i ddosbarthiad grym. Rhagdybiwyd y gallai defnyddio dulliau creadigol a gweledol ysgogi dulliau cyfranogol yn y cyd-destun hwn, a thrwy hynny, helpu i fynd i’r afael â heriau moesegol (Mannay 2016) a goresgyn rhwystrau i gynhwysiant (Shaw a Holland 2014). Felly, nod yr astudiaeth hon oedd archwilio profiadau ymarferwyr o ddefnyddio dulliau creadigol a gweledol a’u barn ar dderbynioldeb, dichonoldeb ac effeithiolrwydd canfyddedig troi’r rhain yn ddulliau mewn ymchwil CAPVA. 

Dulliau

Rhwng mis Mehefin a mis Gorffennaf 2022, cyfwelwyd â saith ymarferydd ledled Cymru a ddefnyddiodd ddulliau creadigol a gweledol wrth weithio gyda theuluoedd mewn sefyllfa o’r fath. Nodwyd pum thema; 1) cymhlethdod CAPVA; 2) ‘blwch adnoddau’ o ddulliau creadigol a gweledol; 3) aneffeithiolrwydd defnyddio’r adnoddau ar eu pen eu hunain; 4) pwerau dulliau creadigol a gweledol; a, 5) pwysigrwydd nod clir wrth ddefnyddio dulliau creadigol a gweledol. 

Y prif negeseuon

Canfu’r astudiaeth fod dulliau creadigol a gweledol yn dderbyniol, yn ddichonadwy ac, o bosibl, yn effeithiol ar gyfer meithrin arferion cyfranogol yng nghyd-destun ymchwil CAPVA. Fodd bynnag, roedd yn bwysig defnyddio ystod amrywiol o ddulliau creadigol a gweledol mewn ymchwil CAPVA. Yn ogystal â hynny, roedd gwneud y rhain yn rhan o ddull ehangach wedi’i lywio gan drawma i’w weld yn cynnig fframwaith moesegol a oedd yn helpu i annog arferion cyfranogol ar ffurf cydweithio â’r cyfranogwr, cynnig dewis, sefydlu diogelwch ac ymddiriedaeth, a grymuso cyfranogwyr. Roedd hyn, yn ei dro, wedi helpu i fynd i’r afael â heriau moesegol perthynol ym maes CAPVA, a allai sicrhau mynediad tecach at ymchwil CAPVA ac y gall y boblogaeth hon chwarae rhan ynddi.

Cysylltwch â chynullwyr y Grŵp Ymchwil Plentyndod ac Ieuenctid – Dawn Mannay mannaydi@caerdydd.ac.uk neu Phil Smith smithpr1@caerdydd.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ddiddordeb mewn mynd i’r digwyddiad wyneb-yn-wyneb hwn.