Iechyd y meddwl a phrofiad pobl ifanc a fu o dan ofal
Cyhoeddwyd gyntaf yn Leicestershire Cares.
Dros y misoedd diwethaf hyn, mae Leicestershire Cares wedi bod yn gweithio gyda grŵp o bobl ifanc a fu o dan ofal, gan eu hannog i ystyried rhai o faterion pwysig eu bywydau. Yn ystod y cyfnod, maen nhw wedi cydweithio â Swyddog y GIG dros Ymgysylltu â Phlant, Pobl Ifanc a Theuluoedd: Bwrdd Gofal Cyfun Caerlŷr, Swydd Gaerlŷr a Rutland a oedd yn awyddus i ddeall profiadau’r bobl ifanc rydyn ni’n eu helpu. Defnyddiodd y grŵp gylch y gweithredu cymdeithasol i’w helpu i nodi rhai materion o bwys:
- Tai
- Sefyllfa ariannol
- Proffesiynolion sy’n gweithio gyda phobl ifanc (diffyg profiad/hyfforddiant)
- Iechyd y meddwl
- Prentisiaethau
- Gweithgarwch corfforol
Dros nifer o sesiynau, nododd y grŵp mai iechyd y meddwl yw’r prif bryder sy’n effeithio ar eu bywydau ar hyn o bryd. Yna, dechreuon nhw ystyried pam mae iechyd y meddwl yn effeithio gymaint ar fywydau pobl ifanc fu o dan ofal. Ar y cyd â Bwrdd Gofal Cyfun Caerlŷr, Swydd Gaerlŷr a Rutland y GIG, lluniodd Leicestershire Cares siart i helpu’r bobl ifanc i weld trefn iechyd y meddwl a’r amryw fathau o gymorth sydd ar gael.
Dyma rai agweddau nodon nhw ynghylch pam mae iechyd y meddwl mor bwysig i bobl ifanc.
“Mae pawb yn unigolyn, heb gyd-fynd â meini prawf penodol.” — Un o’r bobl ifanc
“Ydy cynhalwyr maeth a staff gofal preswyl wedi’u hyfforddi’n briodol?” — Un o’r bobl ifanc
“Iaith annefnyddiol a jargon.” — Un o’r bobl ifanc
Yn sgîl y trafodaethau a’r sylwadau, mae’n amlwg bod profiad pob un o’r bobl ifanc yn unigryw yn ôl sut mae wedi’i drin a’i drafod yn ystod y cyfnod o dan ofal. Gallai’r grŵp gydweithio i nodi chwe phrif anhawster i’w datrys.
- “Nid yw pawb yn ymwybodol o iechyd y meddwl.”
- “Mae’n aneglur pa gymorth sydd ar gael.”
- “Gwasanaethau heb ymateb i adborth mor glou ag yr hoffen ni.”
- “Ansicrwydd gyda phroffesiynolion.”
- “Mae angen i wasanaethau fod yn fwy cyfoes.”
- “Oedi o ran cymorth.” (Rhestrau aros hir)
O ganlyniad i nodi’r themâu allweddol hyn, defnyddion ni’r adolygiad diweddar o ofal cymdeithasol i dynnu sylw’r grŵp at y gorchwylion a’r argymhellion sydd wedi’u pennu ym maes iechyd y meddwl er lles pobl ifanc a fu o dan ofal.
- GORCHWYL 5: ‘Cryfhau disgwyl pobl ifanc a fu o dan ofal y byddan nhw’n byw’n hwy trwy leddfu anghydraddoldeb o ran eu hiechyd.’
- ARGYMHELLIAD: ‘Dylai proses nodi materion iechyd y meddwl ac ymateb iddyn nhw fod yn rhan bwysig o raglenni hyfforddi pob proffesiynolyn sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mae’r gwasanaethau i blant yn ymwneud â nhw.’
Cam nesaf y grŵp fydd ystyried sut mae newid cylch y gweithredu cymdeithasol er gwell, a byddwn ni’n cydweithio’n agos â’n pobl ifanc dros y misoedd nesaf i drafod y dewisiadau hynny yn drylwyr.
Os ydych chi’n gwmni neu’n unigolyn a hoffai gymryd rhan ym Mhrosiect Powering Up, cysylltwch â: aidan@leicesteshirecares.co.uk
Powering Up Project (Care experience) | Leicestershire Cares
Powering Up Project Update Q1 (Care experienced) | Leicestershire Care