Ar ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod rydym yn edrych yn ôl at ddigwyddiad a gynhaliwyd gennym y llynedd.
Roedd dydd Gwener 25 Tachwedd 2022 yn Ddiwrnod Rhuban Gwyn. Hwn oedd y Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod. Rhuban Gwyn yw mudiad mwyaf y byd sy’n ymgysylltu â dynion a bechgyn i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau a chreu cyfleoedd newydd i ddynion a bechgyn adeiladu perthnasoedd cadarnhaol, iach a pharchus.
I nodi’r digwyddiad, cynrychiolais ExChange a rhannu ein hadnoddau o’n cyfres o gynadleddau ym mis Awst ar Gam-drin Domestig ‘Home is where the hurt is‘.
Roedd cyfres y gynhadledd yn cynnwys goroeswyr camdriniaeth, ymchwilwyr i Gam-drin Domestig a gweithdai i ymarferwyr. Helpais yr Athro Alyson Rees i chwilio am ddeunydd artistig i gefnogi’r gyfres hon o gynadleddau. Gwnaethom gydnabod y gall celf a delweddaeth gyfleu rhywbeth na all papurau ymchwil a chyflwyniadau ei wneud. Drwy fy ymchwil, deuthum o hyd i Henny Beaumont sy’n ddarlunydd yn Llundain. Cafodd ei tharo gymaint gan lofruddiaeth Sarah Everard ac wedyn gan Jess Philips AS yn enwi pob un o’r 118 o fenywod eraill a lofruddiwyd yn y flwyddyn honno, nes iddi benderfynu coffáu eu bywydau a chodi ymwybyddiaeth o’u llofruddiaeth trwy baentio eu portreadau. “Wna i fyth anghofio’r 118 wyneb y bu i mi eu paentio, a’r boen sydd ynghlwm â chymaint o golled ddiangen”, meddai Henny.
Fe wnaeth hi fideo o’r broses beintio yn glyfar, fel y gallai pob portread gael ei baentio i fodolaeth a’i baentio allan o fodolaeth. Roedd y gwaith hwn yn brydferth, yn gynnil, ac yn bwerus ac roedd y potensial yn amlwg. Mae holl ddeunyddiau’r gynhadledd i gyd ar gael yn rhad ac am ddim ar ExChange, gan gynnwys gwaith celf Henny.
Ar ôl darganfod gwaith Henny, roeddem yn meddwl pa mor bwerus fyddai ei ddefnyddio i alinio’r Brifysgol â Diwrnod y Rhuban Gwyn, nad oedd y Brifysgol wedi’i gydnabod o’r blaen. Mae Helen Beddow o dîm Cyfathrebu Mewnol yn ein helpu i dynnu’r prosiect at ei gilydd. Awgrymodd Helen ddefnyddio’r sgriniau yn yr adeilad CSL newydd i ddangos y gosodiad celf. Roedd hyn yn rymus ac arweiniodd at y cysylltiad â thimau Gwasanaethau Myfyrwyr a rannodd yr adeilad.
Ochr yn ochr â mi yn nigwyddiad Diwrnod y Rhuban Gwyn roedd cynrychiolwyr Tîm Ymateb i Ddatgeliadau Gwasanaethau Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, Cymorth i Fenywod Caerdydd, Cymru Ddiogelach, Llwybrau Newydd, Ffocws Dioddefwyr De Cymru, yr Uned Atal Trais a Heddlu De Cymru.
Dyma oedd y tro cyntaf i Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr newydd ym Mhrifysgol Caerdydd gael ei defnyddio i godi ymwybyddiaeth a hybu gwasanaethau i fyfyrwyr a staff. Mae CASCADE fel canolfan ymchwil fel arfer yn edrych allan o’r brifysgol tuag at newidiadau y gellir eu gwneud mewn Gwasanaethau Cymdeithasol ac Awdurdodau Lleol. Dyma hefyd un o’r ychydig adegau yr ydym wedi ymuno a thimau ar draws y Brifysgol i godi ymwybyddiaeth am ein gwaith a hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau i fyfyrwyr a staff. Roedd yn amlwg bod y digwyddiad hwn yn caniatáu i aelodau o staff rannu eu profiadau. Cafodd y Tîm Ymateb i Ddatgeliadau hyd yn oed atgyfeiriadau o ganlyniad i’r digwyddiad.
Rydym hefyd wedi cwrdd â chynrychiolwyr o’r Ymgyrch Rhuban Gwyn i drafod y Brifysgol yn ymgeisio i fod yn sefydliad achrededig Rhuban Gwyn a ffyrdd y gallwn gefnogi ein gilydd trwy ymchwil.
Mae hyn yn dangos y manteision niferus o gynnal digwyddiadau gwreiddiol fel hyn. Roedd yn wych cael y cyfle i weithio ar draws y brifysgol gan gymysgu gwasanaethau proffesiynol, ymchwil a myfyrwyr sy’n wynebu adrannau er mwyn cyflawni pethau na allwn ei wneud yn ein timau ein hunain.
Roedd yn ddiddorol gweld y gwerth y gall y celfyddydau, a gweithiau celf penodol, eu cael wrth hwyluso sgyrsiau ar draws y brifysgol, yn ogystal ag ar gyfer hyrwyddo’r brifysgol, cyfnewid gwybodaeth a hwyluso newid.Yn fwy na dim, gobeithio bod hyn yn helpu i gefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn.
Phil Lambert yw Swyddog Gweinyddu Ymgysylltu yng Nghanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol i Blant (CASCADE). Mae hefyd yn Artist Gweledol annibynnol ac yn Asiant Creadigol i Gyngor Celfyddydau Cymru.