Krista Robinson Rheolwr Clinig y Gyfraith

Cafodd Clinig y Gyfraith Prifysgol Caerdydd ei lansio ddydd Gwener 8 Tachwedd, yn ystod yr wythnos Pro Bono genedlaethol. Hyd yma, rydyn ni wedi helpu 20 o bobl na fydden nhw fel arall wedi gallu cael gafael yn rhwydd ar gyngor cyfreithiol na’i fforddio. Rydyn ni hefyd wedi ymdrin â 24 o ymholiadau ar-lein.

Gall Clinig y Gyfraith roi cyngor ar faterion tai megis contractau meddiannaeth (tenantiaethau), lleithder a mynd yn adfail, blaendaliadau, hysbysiadau, achosion meddiant a digartrefedd. Gall hefyd ymdrin ag achosion teulu preifat, megis achosion o ysgariad neu gyfraith breifat sy’n ymwneud â phlant. Ni allwn roi cyngor ar setliad ariannol yn dilyn ysgariad. Rydyn ni hefyd yn ymdrin â rhai materion a fyddai’n rhan o gwmpas Llys yr Hawliadau Bychain.  

Mae modd trefnu apwyntiadau gyda Chlinig y Gyfraith gan e-bostio lawclinic@caerdydd.ac.uk. Gall yr elusen Support Through Court hefyd atgyfeirio aelodau o’r cyhoedd at Glinig y Gyfraith yn uniongyrchol. Ni allwn gynnig unrhyw gynrychiolaeth mewn llys.

Mae gan Glinig y Gyfraith gynghorwyr sy’n fyfyrwyr, a bydd y rhain yn gyfrifol am ymchwilio i’r mater, cynnal y cyfweliad a chynnig cyngor cyfreithiol sylfaenol yn ysgrifenedig i’r cleient. Caiff gwaith y Clinig ei oruchwylio gan Rheolwr Clinig y Gyfraith, sef Krista Robinson, cyfreithiwr a mwy nag 20 mlynedd o brofiad.

Bydd apwyntiadau ar gael i’w trefnu o ddydd Llun 13 Ionawr 2025. Os hoffech chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod elwa ar gyngor cyfreithiol am ddim, cysylltwch â ni gan e-bostio lawclinic@caerdydd.ac.uk i drefnu apwyntiad.

Mae’r cynghorwyr sy’n fyfyrwyr yng Nghlinig y Gyfraith wedi gweithio’n galed iawn yn sgil lansio Clinig y Gyfraith, gan roi gwasanaeth proffesiynol yn gyson.

Dyma rywfaint o’r adborth gan ein cleientiaid:

“Roedd yr wybodaeth/cyngor yn glir ac yn hawdd ei deall.”

“[Roedd y gwasanaeth] yn well na’r disgwyl.”

“Ro’n nhw’n wych. Ro’n i’n teimlo fy mod i’n gallu siarad am bopeth ro’n i eisiau ei drafod. Ro’n nhw’n amyneddgar ac yn ofalgar.”

Diolch yn fawr, Glinig y Gyfraith…… Diolch yn fawr am ddelio â’r broses mewn ffordd gyflym.”