Dr Cindy Corliss, Dr Verity Bennett and David Westlake

Roedd y Peilot Gweithwyr Cymdeithasol mewn Ysgolion (SWIS) yn astudiaeth ddichonoldeb, a gynhaliwyd yn 2018-2020 mewn tri awdurdod lleol yn Lloegr. [DW1] Nid yw gweithwyr cymdeithasol yn aml yn gweithio mewn ysgolion y DU, felly roedd yr ymyrraeth hon yn anarferol. Roedd yn lleoli gweithwyr cymdeithasol mewn ysgolion i gynorthwyo addysgwyr i gefnogi myfyrwyr, a’u helpu i adnabod risgiau i ddiogelwch plant.

Buodd yr astudiaeth yn asesu nodweddion ymarferol gweithredu SWIS, ac yn casglu tystiolaeth ddangosol am ei effeithiolrwydd yn lleihau’r angen i blant ddod i gyswllt gyda’r gwasanaethau cymdeithasol neu gael eu rhoi mewn gofal. Roedd hefyd yn gwerthuso’r ymyrraeth ynghylch i ba raddau roedd yn gost-effeithiol.

 Daethpwyd i’r casgliad ei bod hi’n bosibl, ar y cyfan, i leoli gweithwyr cymdeithasol mewn ysgolion. Rhoddodd y rhai a oedd ynghlwm wrth y peilot adborth positif. Roeddent yn arbennig o bositif am ei botensial i wella diogelwch a pherthnasoedd gwaith rhwng ysgolion a’r gwasanaethau cymdeithasol.

Bu i dri ffactor allweddol effeithio ar y ffordd roedd yr ymyrraeth SWIS yn gweithio’n ymarferol. Roedd y rhain fel a ganlyn:

  1. I ba raddau roedd y gweithwyr cymdeithasol wedi integreiddio yn yr ysgol?

Roedd gweithwyr cymdeithasol a oedd wedi integreiddio’n llawn yng nghymuned yr ysgol yn cael eu hystyried yn rhan o wead yr ysgol, ac roedden nhw’n fwy llwyddiannus na rhai eraill.

  1. Y mathau o weithgareddau yr oedd y gweithwyr cymdeithasol yn cymryd rhan ynddynt

Roedd y rhai a oedd yn gallu addasu i’w rôl i fodloni anghenion yr ysgol a chynnal gweithgareddau ymyrraeth gynnar, a rhoi cyngor a chymorth cyffredinol i staff a myfyrwyr ysgol, yn cael eu hystyried yn fwy effeithiol.

  • Heriau o ran gweithio ar draws y gwasanaethau cymdeithasol a’r ysgol ei hun

Wrth weithio mewn ysgolion, daeth y gweithwyr cymdeithasol i’r casgliad ei bod hi’n anoddach gweithio mewn ysgolion gydag amserlen strwythuredig, ac roedd addysgwyr yn ei chael hi’n anodd pan roedd y gweithwyr cymdeithasol angen treulio amser i ffwrdd o’r ysgol am resymau amrywiol. Pan ddechreuodd yr ysgol a’r gweithwyr cymdeithasol gydweithio i ddeall y rhesymau dros y gwahaniaethau, roedd modd cau’r bylchau yn effeithiol.

Bu i’r astudiaeth o’r ymyrraeth SWIS awgrymu y gall fod yn fuddiol lleoli gweithwyr cymdeithasol mewn lleoliadau addysgol.

Yn seiliedig ar y canfyddiadau hyn, penderfynodd yr Adran Addysg ei ymestyn i ysgolion eraill yn 2020. Cynhaliwyd hapdreial rheoledig (RCT) pragmataidd yn cynnwys 21 o awdurdodau lleol.

Roedd y cam hwn o’r ymchwil yn cymharu gofal cymdeithasol a deilliannau addysgol rhwng disgyblion gyda SWIS yn eu hysgol, a disgyblion eraill, ac a oedd yr ymyrraeth yn gost-effeithiol. Arfarnwyd y ffordd yr oedd SWIS ar waith, a barn staff yr ysgol, gweithwyr cymdeithasol a disgyblion.

Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw wahaniaeth sylweddol rhwng ysgolion sydd â SWIS ac ysgolion hebddynt. Costiodd SWIS ~£100,000 yr ysgol ar draws y cyfnod prawf, ac felly nid oedd yn gost effeithiol.  Roedd staff ysgol, disgyblion a gweithwyr cymdeithasol yn bositif am SWIS, gan ddangos sut mae derbynioldeb a manteision yn gallu amrywio o ganfyddiadau’r treial ar brydiau. Mae’n bosibl bod gan SWIS fanteision ehangach na chafodd eu mesur gan y treial – fodd bynnag, gan nad oedd yn gwella’r canlyniadau targed a fwriadwyd, ni argymhellwyd SWIS ar gyfer gwerthuso pellach.

Am fwy o wybodaeth am yr astudiaeth hon, gweler –Gweithwyr cymdeithasol mewn ysgolion: Astudiaeth ddichonoldeb o dri awdurdod lleol