Meithrin gwytnwch: Naw Ffordd y gall Teuluoedd, Ysgolion a Chymunedau Helpu Plant i Ffynnu
Ynglŷn â’r sgwrs hon:
Yn y cyflwyniad cyflym hwn yn llawn straeon, bydd Dr. Ungar yn dangos bod gwydnwch ein plant yn llawer mwy na’u gallu unigol i oresgyn adfyd. Mae hyn o ganlyniad i ba mor dda y mae eu teuluoedd, eu hysgolion, a’u cymunedau’n gweithio gyda’i gilydd i helpu pobl ifanc sy’n agored i niwed lywio’r adnoddau y mae eu hangen arnyn nhw er eu lles, a p’un a ydy’r adnoddau hynny ar gael i blant sy’n gwneud eu profiadau’n ystyrlon. Yn ogystal ag ymchwilio i beth mae gwytnwch yn ei olygu i blant o nifer fawr o wahanol gefndiroedd, bydd Dr. Ungar hefyd yn cynnig naw strategaeth ymarferol y gall rhieni, rhoddwyr gofal ac addysgwyr eu defnyddio i helpu plant i wella, ni waeth beth fo’u problemau emosiynol, seicolegol neu ymddygiadol.
Dyma amcanion dysgu penodol y cyflwyniad hwn:
1. Deall sut mae plant a theuluoedd ag anghenion cymhleth yn defnyddio ymddygiadau “problematig” i wella eu gwytnwch a’u lles pan nad oes atebion mwy derbyniol yn gymdeithasol ar gael;
2. Dod yn gyfarwydd â sut i asesu gwydnwch;
3. Dysgu am naw adnodd sy’n hybu gwytnwch sy’n angenrheidiol i ddatblygiad cadarnhaol plant;
4. Datblygu strategaethau i weithio heb wrthwynebiad gyda phlant, pobl ifanc sy’n anodd eu cyrraedd, yn ddiwylliannol amrywiol, a’u teuluoedd;
5. Trafod ffyrdd y gellir strwythuro gwasanaethau ar gyfer plant a theuluoedd sy’n gwneud gwytnwch yn fwy tebygol o ddigwydd.
Ynglŷn â’r siaradwr:
Mae Michael Ungar, Ph.D., yn Therapydd Teulu ac yn Athro mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Dalhousie lle mae ganddo Gadair Ymchwil mewn Gwydnwch Plant, Teulu a Chymuned yng Nghanada. Mae ei ymchwil ar wytnwch ledled y byd ac ar draws diwylliannau wedi ei wneud yn brif ysgolor Gwaith Cymdeithasol yn y byd, gyda nifer o sefydliadau addysgol, asiantaethau’r llywodraeth, busnesau nid-er-elw a busnesau’n dibynnu ar ei ymchwil a’i waith clinigol i arwain llesiant plant, teuluoedd, sefydliadau a chymunedau sydd dan straen.
Gwybodaeth am Ganolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc
Rydyn ni’n ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar leihau gorbryder ac iselder ymysg pobl ifanc. Mae ein canolfan ymchwil yn dod ag arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe ynghyd ac mae cyllid hael gan Sefydliad Wolfson yn gwneud hyn yn bosibl.