

Gweminar:
Wedi’u gwthio y tu hwnt i’r eithaf: Mynd i’r afael â’r ddyled ddinesig o ofal di-dâl yng Nghymru
Cyflwynydd: Dr Maria Cheshire-Allen, Prifysgol Abertawe
Dyddiad: Dydd Mawrth 16 Mehefin
Amser: 12:00 – 13:00
Lleoliad: Ar-lein, Teams
Crynodeb
Mae gofalwyr di-dâl yn cynnal gwead cymdeithasol Cymru, ond eto’n parhau i fod yn anweledig mewn systemau sydd wedi’u cynllunio am eu cymorth. Er gwaethaf dros ddegawd o weithredu drwy’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), mae adroddiad diweddar gan y Senedd yn 2026, Gofalwyr di-dâl: Wedi’u gwthio i’r eithaf, yn dangos bod gofalwyr yn erfyn ac yn brwydro am help, gyda dim ond 1.5% ohonynt â chynllun cymorth ffurfiol.
Gan dynnu ar ddata ansoddol wedi’i ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae’r papur hwn yn dadlau nad oes modd i’r model cymorth cyfredol fynd i’r afael â’r argyfwng hwn yn strwythurol. Nod y polisi yw cefnogi bywyd ochr yn ochr â gofalu, ond mae’r mesurau’n canolbwyntio ar les unigol yn hytrach na chyfraniad strwythurol. Mae hyn yn creu paradocs: mae mandad Gwaith Teg Cymru yn diogelu’r gweithlu â thâl, ond eto mae’r system yn ddibynnol ar y gweithlu di-dâl sy’n cael eu heithrio o’r amddiffyniadau hyn. Mae hyn yn codi’r cwestiwn pwysicaf: sut beth fyddai gofal cymdeithasol os byddai gwerth dinesig gofal di-dâl yn cael ei fesur mor ofalus ag arbedion economaidd?
Mae’r papur yn cyflwyno Fframwaith Democrataidd fel offeryn diagnostig. Mae’r fframwaith hwn yn trin gofalwyr fel arbenigwyr dinesig sydd â gwybodaeth a ddylai ddylanwadu ar bolisïau llywodraethol yn hytrach na’n broblemau i’w rheoli. Drwy ganfod pan mae mesurau cyfredol yn diystyru gwerth cymdeithasol, mae’n cynnig llwybr tuag at gydnabyddiaeth gwirioneddol bod gofal yn gyfraniad dinesig.
Bywgraffiad
Mae Dr Maria Cheshire-Allen yn Uwch-gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe, sydd â dau ddyfarniad cymrodoriaeth gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae ganddi 16 mlynedd o brofiad ym maes ymchwil gyfranogol, ac mae’n arbenigo mewn sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael eu cydnabod yn rhan o fframweithiau polisi. Mae Maria hefyd yn ymddiriedolwr gyda Chanolfan Gofalwyr Abertawe. Mae hi’n ymroddedig i bontio’r bwlch rhwng ymchwil academaidd, ymarfer yn y trydydd sector a pholisi’r llywodraeth.

