
Tabl Cynnwys
Mae diogelu oedolion yn broses sy’n gwarchod hawl oedolyn i fyw mewn modd diogel, heb gael ei gam-drin a’i esgeuluso. Mae angen i bobl a sefydliadau gydweithio i atal pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth rhag cael eu cam-drin a’u hesgeuluso. Tra bod gan Awdurdodau Lleol ddyletswyddau cyfreithiol i ddiogelu oedolion dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Gofal 2014 yn Lloegr a Deddf Cynorthwyo ac Amddiffyn Oedolion (Yr Alban) 2007, mae diogelu oedolion wedi cael llawer llai o sylw na gwaith diogelu plant yn hanesyddol.
Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi ail-bwysleisio ei hymrwymiad i amddiffyn oedolion rhag cam-driniaeth ac esgeulustod drwy fesurau i fynd i’r afael â cham-drin pobl hŷn a lleihau trais domestig. Bydd ein cynhadledd yn cael ei chyflwyno gan Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a fydd yn tynnu sylw at rai dilemâu cyfredol ym maes polisi ac ymarfer.
Bydd y gynhadledd hefyd yn arddangos ymchwil gyfredol a bydd yn canolbwyntio ar ystod o bynciau. Mae hyn yn cynnwys cyflwyniadau a phodlediad am gam-drin gwahaniaethol, diogelu pobl sy’n byw â dementia, gweithio â hunan-esgeuluso, ymateb i gam-drin domestig mewn poblogaethau hŷn a dysgu o ganfyddiadau Adolygiadau Ymarfer Oedolion yng Nghymru. Bydd y cyflwyniadau hyn yn nodi sut gellir gwella ymarfer cyfredol a byddan nhw’n berthnasol i weithwyr cymdeithasol a gweithwyr gofal cymdeithasol yn ogystal â gweithwyr iechyd proffesiynol a’r heddlu.
Cyflwyniad

Rhian Bowen-Davies
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Dydd Llun 2 Chwefror 2026, 10:00yb
Gweminarau

Cam-drin Gwahaniaethol:
Defnyddio straeon a naratifau i ymchwilio i ymatebion proffesiynol
Mae cam-drin gwahaniaethol yn targedu unigolion ar sail nodweddion gwarchodedig megis oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas, beichiogrwydd, hil, crefydd, rhyw, neu gyfeiriadedd rhywiol. Nid yw’n cael ei adrodd yn ddigonol ac nid oes llawer o ddealltwriaeth ohono.
Mae’r cyflwyniad hwn yn tynnu sylw at ymchwil gyfredol, gan gynnwys adolygiadau o ddiogelu oedolion, ac mae’n cyflwyno astudiaeth newydd gan ddefnyddio dulliau cwblhau straeon i archwilio ymatebion ymarferwyr.
Cyflwynydd: Dr Karl Mason
Dyddiad: Dydd Mercher 4 Chwefror
Amser: 12 – 1yp
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Neidio dros glwydi a dangos eich lliwiau:
Llywio gweithio rhyngasiantaethol i gefnogi pobl sy’n hunanesgeuluso
Mae hunanesgeuluso yn creu heriau unigryw, sy’n peri risg i iechyd a lles unigolion, sy’n galw am gydweithio aml-sefydliadol. Mae ymarferwyr yn wynebu anawsterau wrth fynd i’r afael â’r cymhlethdodau hyn.
Mae’r weminar hon yn tynnu sylw at botensial gwaith rhwng asiantaethau i greu newid cadarnhaol a’r heriau sy’n ei rwystro. Bydd yn trafod yr angen am chwilfrydedd proffesiynol ym maes diogelu a hunanesgeuluso yn ogystal â ‘chwilfrydedd rhyngbroffesiynol.’
Cyflwynydd: Dr David Orr
Dyddiad: Dydd Llun 23 Chwefror
Amser: 12 – 1yp
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Diogelu Pobl sy’n Byw gyda Dementia:
Canfyddiadau astudiaeth sy’n edrych ar ymarfer ym maes gofal cymdeithasol, gofal sylfaenol a’r sector gwirfoddol
Mae dementia yn gwneud oedolion yn fwy agored i gamdriniaeth. Ymchwiliodd y prosiect hwn i ganfyddiad gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd, a gweithwyr yn y sector gwirfoddol o gamdriniaeth, cyfraith diogelu, a gwaith tîm.
Mae’r cyflwyniad hwn yn cwmpasu ymchwil ar bryderon diogelu ymysg oedolion hŷn sydd â dementia yn Lloegr, amrywiadau yn ôl rhyw, oedran a rhanbarth, a chipolwg o gyfweliadau proffesiynol. Bydd canfyddiadau newydd a negeseuon allweddol i ymarferwyr yn cael eu pwysleisio.
Cyflwynwyr: Reena Lasrado, Jeremy Dixon ac Asri Maharani
Dyddiad: Dydd Mawrth 10 Chwefror
Amser: 1 – 2yp
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Dysgu yn dilyn Adolygiadau o Ymarfer Oedolion (APR)
Mae Adolygiadau Ymarfer Oedolion yn dangos cryfderau a gwendidau systemig ym maes diogelu. Gan ddadansoddi 25 APR (2016–2022), mae’r adolygiad yn tynnu sylw at broblemau cydlynu amlasiantaethol, eirioli, asesiadau galluedd meddyliol, a dogfennu profiadau bywyd oedolion.
Mae’r cyflwyniad hwn yn crynhoi’r prif ganfyddiadau, eu goblygiadau o ran polisi, a sut y mae’n rhaid i hyn lunio proses yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR). Mae’n pwysleisio’r angen am ymarferion diogelu systemig, atebol, sy’n canolbwyntio ar bobl.
Cyflwynwyr: Michelle McManus ac Emma Ball
Dydd: Dydd Mercher 25 Chwefror
Amser: 1 – 2yp
Lleoliad: Ar-lein, Teams
Podlediad

Podlediad: Identifying & responding to domestic abuse in the older population – with Dr Sarah Lonbay
Bydd y podlediad ar ddiogelu oedolion yn cael ei ryddhau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 16 Chwefror. Bydd yn trafod yr heriau a’r cymhlethdodau o adnabod ac ymateb i gam-drin domestig yn y boblogaeth hŷn. Cawn gwmni Dr Sarah Lonbay o Brifysgol Sunderland a chaiff ei gyflwyno gan Dr Jeremy Dixon, Prifysgol Caerdydd. Cadwch olwg a gwrandewch ar ein podlediadau blaenorol.
Yn dod yn fuan…
Adnoddau
Papers and articles by conference speakers:
- Karl Mason: A method worth telling: Using story completion to understand social work responses to discriminatory abuse
- Reena Lasrado et al: Understanding Safeguarding for People Living with Dementia: A Realist Review of Conceptualization and Practice
- David Orr: ‘We try to jump those hurdles’: inter-agency dynamics of referral with self-neglect cases in England
- Emma Ball, Michelle McManus et al: Research Insights: Strengthening Safeguarding in Wales
- Sarah Lonbay: Identifying and responding to domestic abuse in the older population: key challenges and complexities
Other resources:
- Guidance on supporting people living with dementia by Jeremy Dixon: Supporting people living with dementia to be involved in adult safeguarding enquiries
- Social Care Wales safeguarding resources (both children and adults): Safeguarding | Social Care Wales

