Mae rhestrau digwyddiadau Teulu a Chymuned yn cael eu postio i hysbysu’r gymuned ehangach am ddigwyddiadau allanol gan gynnwys gweithdai, cyfleoedd i deuluoedd, plant a phobl ifanc, ac adnoddau defnyddiol.
Please note: These events are delivered by an external organisation and are shared to highlight opportunities that may be of interest to our community. It is not organised or endorsed by ExChange, and all bookings, payments and enquiries should be made directly with the event provider. ExChange is not responsible for the content, delivery or any changes relating to this event.
Sylfeini Rheoli Effeithiol
Ydych chi’n rheolwr newydd neu’n paratoi i gamu i’ch rôl arwain gyntaf? Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn ar-lein ymarferol a diddorol wedi’i chynllunio i’ch helpu i lwyddo wrth drosglwyddo i reolaeth. 4-5 Chwefror
Ar-lein
00:00
- 05/02/2027
Diogelu Grŵp B Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion mewn Perygl
Pwrpas yr hyfforddiant yw rhoi hyder i gyfranogwyr a gwybodaeth gyfredol hanfodol ar sut i ddiogelu plant a phobl ifanc yn eu hamgylchedd. 19 Ionawr 2027
Ar-lein
00:00
- 19/01/2027
Uwchgynhadledd Cymru Ifanc 2026
Mae Uwchgynhadledd Cymru Ifanc yn ddathliad cenedlaethol o hawliau plant, llais a chyfranogiad dinesig pobl ifanc, sy’n dod â phobl ifanc, llunwyr penderfyniadau a phartneriaid ynghyd i nodi Diwrnod Plant y Byd. 21 Tachwedd
Sbarc
00:00
- 21/11/2026
Wythnos Genedlaethol Magu Plant: Beth sy’n Bwysig i Rieni?
Ymunwch â Cyswllt Rhieni yn ystod Wythnos Genedlaethol Magu Plant pan fyddant yn datgelu canfyddiadau Sgwrs Fawr 2026 ac yn trafod beth mae rhieni a theuluoedd wedi’i ddweud wrthym am y materion sydd bwysicaf iddyn nhw. 21 Hydref 2026
Ar-lein
00:00
- 21/10/2026
Cyflwyniad i Fodel Lundy a Chyfranogiad Pobl Ifanc
Mae’r hyfforddiant undydd hwn yn archwilio sut i gynnwys plant a phobl ifanc yn ystyrlon mewn gwneud penderfyniadau, gan ddefnyddio Model Cyfranogiad Lundy. 25 Tachwedd 2026
Canolfan Gynadledda Halliwell Caerfyrddin, Cymru
09:30
- 25/11/2026
Digwyddiad Gwrth-fwlio ar Gyfer Ysgolion yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiad cenedlaethol ar 17 Tachwedd fel rhan o Wythnos Gwrth-fwlio 2026. Ymunwch â ni ddydd Mawrth 17 Tachwedd 2026 yng Ngerddi Sophia (Clwb Criced Morgannwg), Caerdydd, rhwng 10:30am a 2:45pm ar gyfer digwyddiad cenedlaethol sy’n arddangos adnoddau gwrth-fwlio newydd a chefnogaeth sydd ar gael i ysgolion ledled Cymru.
Ngerddi Sophia (Clwb Criced Morgannwg)
10:30
- 17/11/2026
Cynnal Asesiad Maethu
Bydd y cwrs agored deuddydd hwn, sy’n cael ei gynnig gan CORAM BAAF, yn rhoi cyfle i ymarferwyr ac yn enwedig y sawl sy’n newydd i gynnal asesiadau maethu, sicrhau eu hansawdd neu eu hystyried i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau ac ymarfer wrth gwblhau asesiadau maethu. Gall y gweithdy hwn hefyd fod yn sesiwn atgoffa i’r sawl sydd am fyfyrio ac adeiladu ar wybodaeth, sgiliau ac arferion gorau wrth gwblhau asesiadau maethu. 20-21 Hydref 2026
Ar-lein
17:55
- 21/10/2026
Defnyddio Minecraft fel Offeryn Therapiwtig – Lefel 2
Mae’r hyfforddiant hwn i ymarferwyr sydd wedi cwblhau (neu sy’n agos at gwblhau) y cwrs Lefel 1 ar eu cyflymder eu hunain ac sydd eisiau dyfnhau eu hymarfer, meithrin hyder, a chysylltu ag eraill gan ddefnyddio Minecraft yn therapiwtig. Mae’r hyfforddiant yn cael ei gyflwyno’n fyw i grwpiau bach o 6–8 o ymarferwyr ac mae’n cynnwys myfyrio moesegol a rhoi cynnig ar dechnegau uwch dan arweiniad. Dydd Mawrth 10 a dydd Mawrth 17 Tachwedd 2026, 16:00–19:30 GMT (11:00–14:30 ET / 08:00–11:30 PT) – Ymrestrwch yma. Dydd Mawrth 12, Dydd Iau 14, Dydd Mawrth 26 a Dydd Iau 28 Ionawr 2027, 19: 00–20: 30 GMT (14:00–15:30 ET / 11:00–12:30 PT) – Ymrestrwch yma. Dydd Mawrth 9 a dydd Iau 11 Mawrth 2027, 14:00–17:30 GMT (09:00–12:30 ET / 06:00–09:30 PT) – Ymrestrwch yma. Dydd Sadwrn 15 a dydd Sadwrn 22 Mai 2027, 10:00–13:30 BST (19:00–22:30 AEST) – Ymrestrwch yma. Dydd Mawrth 13 a dydd Iau 15 Gorffennaf 2027, 14:00–17:30 BST (09:00–12:30 ET / 06:00–09:30 PT) – Ymrestrwch yma.
Ar-lein
00:00
- 16/07/2027
Defnyddio Minecraft fel Offeryn Therapiwtig – Lefel 1
Mae Lefel 1 Defnyddio Minecraft fel Offeryn Therapiwtig yn gwrs ar-lein y cewch ei gwblhau ar eich cyflymder eich hun. Dyma gam cyntaf eich profiad o ddefnyddio Minecraft fel offeryn therapiwtig yn eich ymarfer.
Ar-lein
00:00
- 01/09/2027
Diogelu Grŵp C
Diogelu Grŵp C ar gyfer yr arweinydd diogelu dynodedig ac uwch ymarferwyr Plant yng Nghymru-Mae gan yr Arweinydd Diogelu Dynodedig rôl hanfodol i sicrhau bod mesurau diogelu ar waith a bod camau gweithredu effeithiol yn cael eu cymryd pan fydd pryderon am blentyn yn codi. 1-2 Rhagfyr 2026
Ar-lein
17:00
- 14/12/2026
Defnyddio hambyrddau tywod digidol mewn therapi ar-lein ac wyneb yn wyneb
Mae’r cwrs hwn yn cynnig trosolwg o hambyrddau tywod digidol mewn therapi chwarae ac ymarfer therapiwtig arall: beth ydyn nhw, sut maen nhw’n gysylltiedig ag arferion byrddau tywod corfforol traddodiadol, a’r ystod o offer sydd ar gael ar hyn o bryd mewn fformatau 2D, 3D, realiti rhithwir, a gemau fideo blwch tywod. I gael rhagor o wybodaeth ac i ymrestru
Ar-lein
00:00
- 01/10/2027
Pryder Ymhlith Pobl Ifanc
Pryder ymhlith pobl ifanc: Ei Adnabod, Cefnogaeth a Gwydnwch Plant yng Nghymru- Mae’r cwrs un diwrnod hwn wedi’i gynllunio i ddyfnhau eich dealltwriaeth o bryder, ei achosion, a’i effaith ar iechyd meddwl a chorfforol. 12 Tachwedd 2026 Rhagor o wybodaeth
Ar-lein
09:30
- 12/11/2026
Cynllunio ar gyfer Plant
Bydd y cwrs agored hwn, sydd wedi'i gynnig gan CORAM BAAF, yn galluogi cyfranogwyr i wella eu dealltwriaeth o rôl sefydlogrwydd ym mywydau plant. Drwy fyfyrio ar arferion gorau, bydd y cwrs yn helpu'r sawl sy'n cymryd rhan i lunio cynlluniau parhaol gyda’r bwriad o wella deilliannau i blant a phobl ifanc, gan gynnwys eu datblygiad emosiynol, gwybyddol a chorfforol. 11 Tachwedd 2026
Ar-lein
09:45
- 11/11/2026
Diwrnod Ymwybyddiaeth Maethu Preifat
Mae plentyn sy’n derbyn gofal gan rywun nad yw’n berthynas agos am fwy na 28 diwrnod yn byw mewn trefniant maethu preifat. Mae gan bob awdurdod lleol gyfrifoldeb i godi ymwybyddiaeth o faethu preifat yn ei ardal. Mae CoramBAAF yn falch iawn o fod yn cynnal y pedwerydd Diwrnod Ymwybyddiaeth Maethu Preifat cenedlaethol. 4 Tachwedd 2026
Ar-lein
09:00
- 04/11/2026
Hawliau Plant a’r Blynyddoedd Cynnar
Mae’r cwrs hyfforddi hwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru wedi’i anelu at ymarferwyr sy’n gweithio gyda babanod a phlant ifanc o dan saith oed neu gyda’u teuluoedd mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys gofal plant, cymorth i deuluoedd, gwaith chwarae, gweithgareddau awyr agored a chelfyddydol. Bydd mynychwyr yn cael cyfle i archwilio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a dysgu sut mae’n berthnasol i fabanod a phlant ifanc. 1 Rhagfyr
Ar-lein
09:00
- 01/12/2026
Hawliau Plant a Chyfranogiad ar gyfer Phobl Ifanc 11-25 oed
Gan ddefnyddio gweithgareddau hwyliog ac atyniadol drwy gydol y dydd, bydd y cwrs Hawliau Plant a Chyfranogiad i Bobl Ifanc 11-25 oed yn nodi’r fframwaith damcaniaethol a deddfwriaethol ar gyfer cyfranogiad pobl ifanc yng Nghymru, a bydd yn cynnwys technegau ac offer ymarferol y gellir eu defnyddio’n uniongyrchol gyda pobl ifanc ar sail unigol a grŵp i’w cynnwys mor eang â phosibl mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd, gan gynnwys ymestyn eu rhan mewn gwneud penderfyniadau sefydliadol. 10 Rhagfyr
Ar-lein
09:30
- 10/12/2026
Cefnogi Pobl Ifanc
Mae Become yn cynnig nifer o gyrsiau i ofalwyr sy’n canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc trwy gyfnodau pontio. I gael rhagor o wybodaeth am bob cwrs, cliciwch ar y ddolen i’r cwrs unigol. Cefnogi Pobl Ifanc gyda Chyllidebu a Chyllid – Mae’r hyfforddiant hwn yn edrych ar y problemau mae pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ac ymadawyr gofal yn eu hwynebu ynghylch cyllidebu a chyllid. Cefnogi Pobl Ifanc trwy Gyfnodau Pontio – Lluniwyd y digwyddiad hwn ar y cyd â phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gan edrych ar y cyfnodau pontio amrywiol ym maes gofal a sut mae eu rheoli yn effeithiol. Cefnogi Lles Pobl Ifanc sydd â Phrofiad o fod mewn Gofal – Mae’r cwrs hwn yn cydnabod yr effaith bosibl ar les emosiynol ac iechyd meddwl pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Cefnogi Pobl Ifanc wrth iddyn nhw bontio i Addysg Uwch – Mae’r digwyddiad hyfforddi byr hwn yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am y broses o wneud cais am le mewn prifysgol i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a sut i sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth wrth iddyn nhw bontio i fyd addysg uwch ac yn ystod eu hamser yno.
Ar-lein
00:00
- 31/03/2027
Hyfforddiant sy’n seiliedig ar hawliau
Mae Become yn cynnig nifer o gyrsiau sy’n canolbwyntio ar hawliau i ofalwyr. I gael rhagor o wybodaeth am bob cwrs, cliciwch ar y ddolen i’r cwrs unigol. Cyflwyniad i Hawliau a Hawlogaethau – Mae’r cwrs hwn yn edrych ar ddeddfwriaeth a’r fframwaith cyfreithiol sy’n ymwneud â phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Deall y Broses Gadael Gofal – Mae’r sesiwn hyfforddi hon yn helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall profiadau pobl ifanc a sut mae’r broses o adael gofal yn gweithio. Cynllunio Llwybrau a Rôl Gofalwyr Maeth – Mae’r hyfforddiant hwn yn edrych ar broses cynllunio llwybrau a’r meysydd sydd fel arfer dan sylw yn y Cynllun Llwybrau. Sicrhau Hawliau a Hawlogaethau Pobl Ifanc – Mae’r hyfforddiant hwn yn helpu gofalwyr i ddeall y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â hawlogaethau i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
Ar-lein
00:00
- 31/03/2027
Cefnogi Pobl i Bleidleisio
Cefnogi Pobl i Bleidleisio – Hyfforddiant Shelter Cymru 31 Mawrth 2026 – 31 Rhagfyr 2026 Ni ddylai mynediad at gyfranogiad democrataidd ddibynnu ar statws tai rhywun. Ond, mae pobl sy’n ddigartref neu sy’n byw mewn llety dros dro yn aml yn wynebu rhwystrau sylweddol rhag cofrestru i bleidleisio. Mae’r cwrs ar-lein rhyngweithiol hwn yn grymuso staff tai a chymorth rheng flaen i chwarae rôl hyderus a gwybodus wrth gael gwared ar y rhwystrau hynny. Drwy gryfhau eich dealltwriaeth a’ch ymagwedd chi, byddwch yn helpu i sicrhau nad yw tenantiaid a phobl ddigartref yn cael eu heithrio rhag eu hawl i bleidleisio. I gael rhagor o wybodaeth a chofrestru
Ar-lein
00:00
- 31/12/2026
Newidiadau DBS Hydref 2026
Dysgwch y manylion am Adran 5 a llwyddwch gyda’ch gwiriadau DBS heb straen. Ymunwch â ni ar gyfer y weminar rhad ac am ddim hwn sy’n archwilio’r newidiadau allweddol i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gyflwynwyd o 1 Medi 2026 a’r hyn maen nhw’n ei olygu i sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl. 11 Medi 2026
Ar-lein
12:30
- 11/11/2026
Hyfforddiant y Pencampwyr: Rhoi cyd-gynhyrchu ar waith
Yn y sesiwn hon byddwn ni’n canolbwyntio ar gynllunio cyd-gynhyrchu, y broses o’i roi ar waith, ac yn ystyried heriau posibl. Mae'r sesiwn ddysgu hon ar gyfer y rheiny sydd eisoes â dealltwriaeth dda o hanfodion cyd-gynhyrchu, ond sy’n meddwl am sut y byddech chi'n mynd ati i'w cymhwyso i senario bywyd go iawn yn eich gwaith neu'ch cymuned. Rydyn ni’n canolbwyntio ar gynllunio ymarferol cyd-gynhyrchu, yn gweithio drwy fap ffordd i'r broses o roi cyd-gynhyrchu ar waith, ac yn ystyried heriau a pheryglon posibl i fod yn effro iddyn nhw.
Ar-lein
10:00
- 09/11/2026
Sioe Deithiol Cymraeg Craidd
Dewiswch un sesiwn 9:30yb–12yp neu 1–3:30yp. Athrawon Cymraeg Craidd mewn ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg – mae Sioe Deithiol Dysgu ar ei ffordd! Ymunwch â ni am sesiwn ddysgu proffesiynol ymarferol sy’n canolbwyntio ar addysgeg dysgu ieithoedd effeithiol. Bydd cyfle i: archwilio adnoddau a syniadau newydd myfyrio ar eich ymarfer a rhannu profiadau datblygu dulliau ymarferol i gefnogi dysgu ac addysgu Cymraeg Craidd Caerfyrddin – 2 Tachwedd Abertawe – 4 Tachwedd Bangor – 6 Tachwedd Wrecsam – 9 Tachwedd Caerdydd – 10 Tachwedd

15:00
- 10/11/2026
