Dysgwch fwy am ein digwyddiadau a gweminarau sydd ar ddod, a sut y gallwch chi gofrestru, ar y dudalen hon. Am restr o ddigwyddiadau’r gorffennol, ewch i’n harchif.
" alt="thumbnail" />
Gweminar: Sut i gyd-gynhyrchu ymchwil ar ddiwedd oes gyda phobl ag anabledd dysgu
Byddaf yn sôn wrthych am ddau o'n hastudiaethau a ariennir gan yr NIHR: Prosiect Victoria a Stuart (sy'n cynnwys cyd-gynhyrchu pecyn cymorth o adnoddau a grëwyd ar y cyd, i helpu pobl ag anabledd dysgu i gymryd rhan wrth gynllunio gofal diwedd oes) a Prosiect DAPPLE (sy'n edrych ar fodelau o gynllun darparu gofal diwedd oes i bobl ag anabledd dysgu). Roedd y ddau brosiect yn cynnwys grwpiau o bobl ag anabledd dysgu. Yn y sesiwn hon, byddaf yn defnyddio recordiadau fideo o'r grwpiau hyn a fydd yn dangos i chi: Sut y gwnaethon ni greu pecyn cymorth Victoria a Stuart (cymerodd bron i 200 o bobl ran weithredol, gan gynnwys 36 o bobl ag anabledd dysgu) Sut mae grŵp cyd-gynhyrchu DAPPLE yn gweithio gyda'i gilydd i ystyried canfyddiadau'r astudiaeth Byddaf yn sôn am egwyddorion pwysig cyd-gynhyrchu, a pham ei bod yn hanfodol ein bod yn cynnwys y bobl sy’n bwysig. Gallai hyn roi syniadau i c
Ar-lein, Teams
12:00
- 09/09/2026
" alt="thumbnail" />
Gweminar: Beth yw ymarfer da wrth weithio gyda rhieni ym maes gwaith plant a theuluoedd?
Mae gofyn i wasanaethau plant effeithiol weithio gyda rhieni, ond ychydig iawn o ymchwil sydd wedi arsylwi'n uniongyrchol ar y sgyrsiau hyn, sydd yn aml yn gymhleth ac weithiau’n anodd. Bydd hanner cyntaf y sgwrs hon yn rhannu canfyddiadau o astudiaethau a fu'n arsylwi ar dros 300 o recordiadau o waith er mwyn nodi nodweddion allweddol ymarfer effeithiol. Bydd yn cyflwyno cynllun codio dibynadwy at ddibenion sgiliau gwaith cymdeithasol craidd ac yn cyflwyno canfyddiadau allweddol o astudiaethau sy'n defnyddio'r codau hyn. Bydd yr ail hanner yn cymharu barn rhieni, oedolion sydd â phrofiad o ofal a gweithwyr cymdeithasol â'r cynllun codio mewn perthynas ag arsylwadau ymarfer. Bydd y seminar yn dod i ben drwy gynnig pedwar dimensiwn craidd o ymarfer da wrth weithio gyda rhieni ym maes gwaith cymdeithasol plant a theuluoedd a gwneud awgrymiadau ar sut y gall unigolion a sefydliadau gefnogi rhagoriaeth yn y meysydd hyn.
Ar-lein, Teams
12:00
- 16/09/2026
" alt="thumbnail" />
Gweminar: Cefnogi anghenion pobl am gariad ac agosatrwydd: beth yw rôl gofal cymdeithasol iechyd meddwl?
Bydd y sgwrs hon yn trafod yr angen am gymorth i ddatblygu perthnasoedd rhamantus/clòs cadarnhaol i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl. Bydd yn rhoi trosolwg o'r dystiolaeth gyfredol ynghylch safbwyntiau ymarferwyr a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl, a'r rhwystrau a'r heriau a welir wrth drafod neu gynnig cymorth yn ymwneud â pherthnasoedd rhamantus neu glòs. Ystyrir modelau gwahanol o ofal a chymorth, a gwersi posibl o sectorau gofal cymdeithasol eraill. Mae'r sgwrs hon yn gobeithio annog trafodaeth ynghylch a ddylai gweithwyr cymdeithasol a staff gofal cymdeithasol siarad â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl am eu hanghenion a'u dymuniadau o ran perthnasoedd rhamantus neu glòs – ac os felly, sut y gallent wneud hynny a pha gymorth y gellid ei gynnig?
Ar-lein, Teams
13:00
- 22/09/2026
Mae ExChange Wales yn dod ag ymchwilwyr blaenllaw, ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaeth ynghyd i rannu arbenigedd, tystiolaeth ymchwil a phrofiadau o ofal.
Trwy ein cynadleddau, gweithdai, darlithoedd a seminarau, mae ExChange yn darparu hyfforddiant o ansawdd uchel am ddim i gefnogi datblygiad parhaus gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol ledled Cymru. Wrth ddenu siaradwyr cenedlaethol blaenllaw, rydym yn dysgu ac yn cynghori ymchwil sy’n effeithio polisi ac ymarfer. Mae ein digwyddiadau a’n hadnoddau yn cyfoethogi sgiliau wrth flaenori profiadau llaw gyntaf pobl â phrofiad o ofal.
Mae ystod o ffyrdd y gallwch chi weithio gydag ExChange. Os ydych chi am gynnal gweithdy ExChange, gweminar, podlediad neu flog, cysylltwch â ni.

