
‘Sbotolau’ Gweminar:
Gwahaniaethau ethnig a chrefyddol yn y defnydd o ofal iechyd plant sy’n derbyn gofal a chymorth yng Nghymru
Cyflwynydd: Yongchao Jing, Cydymaith Ymchwil yn CASCADE
Dyddiad: Dydd Mercher, 7 Mai
Amser: 12:00-1:00yp
Lleoliad: Ar-lein, Teams
Crynodeb
Mae plant sy’n derbyn gofal a chymorth gan y system lles plant yn cynrychioli is-boblogaeth agored i niwed sy’n aml yn wynebu heriau cymhleth ac amlochrog, sydd fel arfer yn deillio o gamdriniaeth, esgeulustod neu anabledd. Er gwaethaf y gwahaniaethau iechyd sylweddol sy’n gysylltiedig â’r grŵp hwn, mae ymchwil gyfyngedig wedi edrych ar sut mae’r canlyniadau hyn yn wahanol ar draws hunaniaethau ethnig a chrefyddol.
Mae’r papur hwn yn mynd i’r afael â’r bwlch drwy drin a thrafod gwahaniaethau ethnig a chrefyddol yn y defnydd o ofal iechyd ymhlith plant sy’n derbyn gofal a chymorth gan ddefnyddio data gweinyddol cysylltiedig cynhwysfawr o Gymru. Fe wnaethon ni gysylltu cofnodion plant sy’n derbyn gofal a chymorth rhwng 2017 a 2019 â data Cyfrifiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol 2011 a 2021 i nodi cysylltiad crefyddol y plentyn a gwella cyflawnrwydd ethnigrwydd. Yn ogystal, cyfunwyd y cofnodion hyn â data iechyd o ofal sylfaenol ac eilaidd ar gyfer y blynyddoedd cyfatebol.
Gan ysgogi’r cysylltiadau data arloesol hyn, fe wnaethon ni asesu amrywiadau ethnig a chrefyddol mewn dau faes allweddol: (1) y tebygolrwydd o gyrchu gwahanol wasanaethau gofal iechyd (meddyg teulu, gofal cleifion mewnol ysbyty, ac adran damweiniau ac achosion brys) a (2) y tebygolrwydd o ddefnyddio gofal iechyd ar gyfer cyflyrau cyffredin, megis materion iechyd meddwl ac anafiadau.
Bywgraffiad
Mae Yongchao bellach yn Gydymaith Ymchwil ar brosiect Anghydraddoldebau Ethnig a Chrefyddol mewn Lles Plant (ERICA) sydd wedi ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac yn trin a thrafod anghydraddoldeb ethnig mewn gofal cymdeithasol plant drwy gymhwyso technegau cysylltu data cymhleth â data gweinyddol yng Nghymru o fewn banc data SAIL. Gyda thîm ymchwil ERICA mae hi wedi cyhoeddi ar anghymesuredd ethnig yn y system lles plant (https://doi.org/10.1093/bjsw/bcae117) a fersiwn cyn-argraffu ar anghydraddoldeb ethnig mewn canlyniadau addysgol i blant sy’n derbyn gofal cymdeithasol (https://osf.io/preprints/socarxiv/cwyr7_v1).