‘Hunaniaeth ac ymdeimlad o berthyn mewn mabwysiadu traws-hil a’r Fframwaith AFDiT’

Cyflwynydd: Dr Tam Cane, University of Sussex

Dyddiad: Dydd Llun 16 Mis Mehefin 2025
Amser: 2 – 3:30yp
Lleoliad: Lecture Room Glamorgan/S/0.81, Cardiff University

Mae’n bleser gennyn ni lansio Darlith Mabwysiadu Flynyddol 2025. Ein siaradwr gwadd fydd Dr Tam CaneBrifysgol Sussex, a fydd yn cyflwyno ei hymchwil ar y fframwaith AFDiT – fframwaith gyda’r nod o wella deilliannau hunaniaeth plant o blith grwpiau ethnig wedi’u lleiafrifo a fabwysiadwyd gan rieni o hil wahanol.

Gallwch chi gofrestru nawr.

Athro Cyswllt yn yr Adran Gwaith Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol yn Sussex yw Dr Tam Cane. Mae hi’n weithiwr cymdeithasol cymwys i blant a theuluoedd, ac mae ei gwaith yn canolbwyntio ar iechyd atgenhedlu ac arferion mabwysiadu.

Diben gwaith Dr Cane yw mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a chefnogi arferion gorau yn y sector. Hi yw’r ysgolhaig cyntaf i drin a thrafod HIV yng nghyd-destun system fabwysiadu y DU, ac mae hi wedi gwneud argymhellion ar gyfer dulliau mwy cynhwysol tuag at HIV. Datblygodd Dr Cane y model BRAC2eD er mwyn lleihau rhagfarn yn y broses asesu a recriwtio ar gyfer pobl o gefndiroedd ethnig wedi’u hiliaethu a’u lleiafrifo sy’n ystyried mabwysiadu.

Sefydlodd Dr Cane y fframwaith AFDiT (Anti-racist framework for decision-making and transitioning children from minoritised racial and ethnic groups into transracial adoptive families) hefyd. Datblygodd hi’r fframwaith ar y cyd â phobl sydd wedi cael eu mabwysiadu, rhieni mabwysiol, a rhieni biolegol sydd â phrofiad o fabwysiadu plant o hil wahanol. Cafodd y fframwaith AFDiT ei lansio ym mis Mai 2024 gyda’r nod o wella ymarfer gwaith cymdeithasol mewn achosion o fabwysiadu traws-hil ac i wella deilliannau hunaniaeth hirdymor plant a fabwysiadwyd gan rieni o hil wahanol. Mae’r fframwaith hwn bellach yn cael ei roi ar waith ar draws y gwasanaethau mabwysiadu yn Lloegr a’i ymgorffori mewn cofnodion sefydlogrwydd mabwysiadu plant, gan gynnwys cofnodion sefydlogrwydd mabwysiadu plant CoramBAAF a dogfennau pwrpasol eraill i gofnodi sefydlogrwydd plant.

Ymhlith ymchwil arall, mae Dr Cane yn arwain gwerthusiad o’r rhaglen Lifelong Links ym maes mabwysiadu. Mae’r rhaglen hon yn rhoi cymorth i bobl sydd wedi cael eu mabwysiadu a’u teuluoedd mabwysiol ailgysylltu â pherthnasoedd allweddol a chynnal perthynas â nhw drwy gydol eu bywyd ar ôl cael eu mabwysiadu. Mae hi hefyd yn ymgymryd ag ymchwil o ran strategaethau i greu a chynnal mannau diogel i blant Du sydd yn y system ofal neu sy’n trosglwyddo iddi.

Mae Dr Tam Cane yn Aelod o Gyngor Nagalro, yn Brif Olygydd Rhifyn Arbennig 2023 Adolygiad Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc EUSARF, ac yn aelod o bwyllgor ymchwil CoramBAAF a’r Black Adoption Project.

Cynhelir y ddarlith ddydd Llun 16 mis Mehefin, 2:00 – 3:30yp yn Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd. Bydd yn ddigwyddiad hybrid. COFRESTRWCH NAWR i fynychu yn bersonol neu ar-lein.