
Creu a Rheoli Rhaglen Eiriolaeth Rhieni
Cyflwynydd: David Tobis, Ph.D
Dyddiad: Dydd Merch 12 Tachwedd 2025
Amser: 17:00 – 18:00
Lleoliad: Ar-lein, Teams
Crynodeb:
Mae rhieni sydd â phrofiad o’r system lles plant yn gweithio fel eiriolwyr i helpu rhieni eraill mewn perthynas â lles plant. Mae rhieni yn ymgyrchwyr hefyd i newid polisïau, rhaglenni a systemau lles plant.
Mae’r cyflwyniad hwn yn canolbwyntio ar sut i greu a rheoli rhaglen eiriolaeth rhieni sy’n cynorthwyo rhieni, yn helpu teuluoedd ac yn gwella systemau lles plant. Mae’r rhaglenni hyn yn cael eu cynnal o fewn asiantaethau llywodraethol ac fel sefydliadau annibynnol.
Mae’r cyflwyniad yn seiliedig ar y Canllaw Ymarfer: Creu a Rheoli Rhaglen Eiriolaeth Rhieni. Mae wedi’i baratoi i helpu rhieni a’u cynghreiriaid sydd wedi creu Rhaglen Eiriolaeth Rhieni, neu sydd yn y broses o wneud hynny. Datblygwyd y Canllaw dan nawdd Canolfan CASCADE Prifysgol Caerdydd. David Tobis a Clive Diaz sydd wedi’i ysgrifennu, a chafwyd mewnbwn gan ddau grŵp cynghori rhieni.
Mae’r pynciau dan sylw’n cynnwys: Beth yw Eiriolaeth Rhieni a Pham mae’n Bwysig; Rôl Arweinyddiaeth Rhieni; Paratoi Asiantaeth; Yr Hyn y mae Rhieni Am i Eiriolwyr Cymheiriaid ei Wybod a’i Wneud; Y Gefnogaeth a’r Hyfforddiant sydd eu Hangen ar Eiriolwyr Rhieni; Hyfforddi Staff y bydd Angen Iddynt Weithio gydag Eiriolwyr Rhieni; a Datblygu Strategaeth i Hyrwyddo Eiriolaeth Rhieni. Mae’r cyflwyniad yn cynnwys llawer o adnoddau sydd ar gael yn rhad ac am ddim ar-lein. Bydd pawb sy’n mynd i’r cyflwyniad yn cael copi o’r Canllaw Ymarfer yn rhad ac am ddim.
Bywgraffiad
David Tobis, Ph.D. Mae David yn ffigwr blaenllaw yn fyd-eang mewn perthynas â chefnogi a hyrwyddo eiriolaeth rhieni ym maes lles plant. Roedd yn arfer bod yn gyfarwyddwr gweithredol Cronfa Lles Plant yn Ninas Efrog Newydd a helpodd i lansio ymgyrchu rhieni ym maes lles plant. Erbyn hyn, mae’n Llysgennad Cyffredinol ar gyfer y Rhwydwaith Eiriolaeth Rhieni Rhyngwladol (IPAN) sy’n adeiladu mudiad dan arweiniad rhieni i ddiwygio lles plant. Mae ei lyfr, From Pariahs to Partners: How Parents and their Allies Changed New York City’s Child Welfare System (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2013) wedi helpu i hyrwyddo eiriolaeth rhieni ym maes lles plant yn fyd-eang. Am bedair degawd, bu’n gweithio i asesu a diwygio systemau lles plant yn yr Unol Daleithiau ac yn rhyngwladol fel ymgynghorydd i UNICEF, Banc y Byd, cyrff anllywodraethol, sefydliadau a llywodraethau mewn dros 30 o wledydd. Erbyn hyn, mae’n cyhoeddi Substack wythnosol, Connecting Local Actions to Big Picture Changes sy’n trafod yr angen i wrthsefyll awdurdodaeth.