Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mae Adoption UK (AUK) Cymru yn cynnig hyfforddiant ar-lein am ddim i leoliadau addysg y blynyddoedd cynnar, ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd.
Bydd yr hyfforddiant yn cael ei arwain gan Arweinydd Addysg AUK Cymru, Julie Moseley, mabwysiadwr ac athrawes sydd â 33 mlynedd o brofiad ar lefel Uwch Dîm Arwain.
Gall Adoption UK gynnig yr hyfforddiant hwn ar gyfer diwrnodau hyfforddiant mewn swydd ysgolion, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb. Gellir cyflwyno’r hyfforddiant hwn yn Gymraeg hefyd ar gais.
Os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch ag arweinydd Addysg AUK yn Julie.moseley@adoptionuk.org.uk.
Gallwch gofrestru ar gyfer yr hyfforddiant a ariennir yn llawn ar wefan Adoption UK.