Cinio Nadolig Caerdydd 2025: Dod â Llawenydd i Bobl Ifanc sydd â Phrofiad o fod mewn Gofal
Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, bydd pobl ifanc o bob cwr o dde Cymru a fyddai fel arall yn treulio Dydd Nadolig ar eu pennau eu hunain yn cael eu croesawu i ddathliad Nadoligaidd arbennig – Cinio Nadolig Caerdydd.
Mae’r digwyddiad arbennig hwn yn addas i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal – y rhai sydd wedi cael eu magu mewn gofal maeth, gofal gan berthnasau eraill, neu gartrefi plant. Mae nifer ohonyn nhw’n wynebu unigrwydd neu unigrwydd cymdeithasol yn oedolion. Mae’r cinio hwn yn cynnig cynhesrwydd, cymuned a chysylltiad yn ystod cyfnod anodd o’r flwyddyn.
Tîm sy’n deall
Tîm o wirfoddolwyr pwrpasol sy’n trefnu ac yn cynnal y digwyddiad hwn, gan gynnwys aelodau o ganolfannau ymchwil CASCADE a WISERD ym Mhrifysgol Caerdydd, Voices from Care Cymru a NYAS Cymru. Mae gan nifer o’r gwirfoddolwyr brofiad personol neu broffesiynol o fod mewn gofal eu hunain ac yn deall pa mor bwysig y mae’r dathliad hwn yn gallu bod. Roedd rhai o’r gwestai blaenorol wedi dychwelyd i fod yn wirfoddolwyr, ac yn awyddus i roi’n ôl i’w cymuned a bod yn rhan o rywbeth arbennig.
Beth mae’r diwrnod yn ei gynnwys
Bydd gwesteion o fewn pellter o 30 milltir o Gaerdydd yn cael gwahoddiad, sy’n cynnwys trafnidiaeth, cinio Nadolig, anrhegion, a diwrnod llawn o weithgareddau. Mae Cinio Nadolig Caerdydd wedi’i ysbrydoli gan fenter a gafodd ei ddechau gan y bardd Lemn Sissay, a sefydlodd ddigwyddiadau tebyg ym mhob rhan o Loegr ar sail ei brofiadau’n cael ei fagu mewn gofal (darllenwch ragor yma). Hyd yma Caerdydd yw’r unig ddigwyddiad Cinio Nadolig o’i fath yng Nghymru.



Rhai lluniau o un o’r digwyddiadau
Cafwyd adborth calonogol gan y blynyddoedd blaenorol – dywedodd llawer o’r gwesteion wrthon ni fod y diwrnod wedi gwneud eu Nadolig yn un arbennig iawn.



Adborth gan westeion blaenorol am y diwrnod
Sut y gallwch chi helpu
Rhoddion yn unig sy’n ariannu’r digwyddiad hwn, ac elusen gofrestredig Voices from Care Cymru sy’n rheoli’r holl gyllid.
Sut i gymryd rhan:
- Rhoi: Ewch i’n tudalen codi arian i gefnogi’r digwyddiad yn ariannol.
- Prynu anrheg: Prynwch rywbeth o’n rhestr o anrhegion.
- Rhoi eitemau: Rydyn ni hefyd yn chwilio am anrhegion ac addurniadau o safon i wneud y diwrnod yn fwy arbennig.
- Argymell i rywun arall neu chi eich hun: Rhannwch fanylion gan ddefnyddio ein ffurflen cyfeirio.
- Dewch i ymuno â ni yn ein digwyddiad codi arian! Dewch draw i SBARC|SPARK ar Heol Maendy am 5pm ar 4 Rhagfyr i’n digwyddiad codi arian ac ymwybyddiaeth fydd yn cynnwys:
🍰 Gwerthu Cacennau
🎟️ Raffl
🎵 Perfformiad gan gôr Voices from Care Cymru
Bydd eich cefnogaeth – boed hynny’n fawr neu’n fach – yn helpu i sicrhau nad yw unrhyw berson ifanc yn Ne Cymru sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn treulio’r Nadolig ar eu pennau eu hunain.
Cysylltwch â ni: thecardiffchristmasdinner@gmail.com
Neu dilynwch ni i gael y wybodaeth ddiweddaraf a hwyl yr wŷl:
📸 Instagram | 💬 Bluesky | 💼 LinkedIn
