Gweminar:
Wedi’u magu gan berthnasau: Profiadau gofalwyr Du ac Asiaidd sy’n berthnasau yn Lloegr

Cyflwynydd: Dr Priya Tah, Prifysgol Rhydychen

Dyddiad: Dydd Mercher 24 Mehefin
Amser: 13:00 – 14:00
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Crynodeb

Yn Lloegr, perthnasau nad ydynt yn rhieni sy’n gofalu am tua 120,000 o blant. Dim ond lleiafrif y rhain sy’n drefniadau ffurfiol sydd wedi’u sicrhau’n gyfreithiol. Mae tystiolaeth yn dangos nad yw plant o grwpiau ethnig lleiafrifol, a phlant Du yn benodol, yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ymhlith plant sy’n byw â’r trefniadau gofalu ffurfiol hyn gan berthnasau.

Cymerodd gofalwyr sy’n berthnasau o gymunedau Du ac Asiaidd ran mewn cyfweliadau ac asesiadau wedi’u safon a oedd yn trafod profiadau. Er bod tebygrwydd ym mhrofiadau gofalwyr o’r sampl hwn ac ymchwil blaenorol (Gwyn yn bennaf), ni ellir gorbwysleisio effaith ethnigrwydd. Roedd gofalwyr Du ac Asiaidd sy’n berthnasau yn yr astudiaeth hon yn fwy tebygol o fyw mewn aelwydydd mwy, mewn tai heb ddigon o le, mewn teuluoedd ag un gofalwr, o fod ag incwm is a chyfrifoldebau gofalu ychwanegol. Tynnodd rhai gofalwyr sylw at brofiadau o hiliaeth a diffyg cymhwysedd diwylliannol, ynghyd â rhagdybiaethau niweidiol am rwydweithiau cymorth gofalwyr Du ac Asiaidd sy’n ofalwyr. Er gwaethaf yr heriau, nododd y gofalwyr sy’n berthnasau fod y plant yn cael effaith bositif ar eu bywydau.

Mae’r argymhellion yn tynnu sylw at y cymorth cychwynnol a pharhaus sydd ei angen ar ofalwyr sy’n berthnasau i barhau i ofalu am eu plant.

Bywgraffiad

Dr Priya Tah, Canolfan Rees, Yr Adran Addysg, Prifysgol Rhydychen, Swyddog Ymchwil.

Swyddog Ymchwil yng Nghanolfan Rees, Prifysgol Rhydychen, yw Dr Priya Tah, sydd â phrofiad o astudiaethau ymchwil dulliau cymysg. Ymhlith diddordebau ymchwil Priya mae gwella deilliannau i blant a phobl ifanc, gan canolbwyntio ar blant mewn angen (gan gynnwys plant mewn gofal), iechyd meddwl a lles. Mae ganddi brofiad ymchwil helaeth wedi iddi weithio â phlant a phobl ifanc sy’n agored i niwed, yn ogystal â’u teuluoedd.