
Gweminar: Canfyddiadau astudiaeth ansoddol Cymru gyfan am fynediad at wasanaethau ar ôl cam-drin plant (SERENA)
Cyflwynwyr: Jon Ablitt & Sarah Thompson, Prifysgol Caerdydd
Dyddiad: Dydd Mercher 21 Hydref
Amser: 13:00 – 14:00
Lleoliad: Ar-lein, Teams
Crynodeb
Bydd y weminar hon yn cyflwyno canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg o astudiaeth achos ansoddol Cymru gyfan, ac adolygiad llenyddiaeth Ewropeaidd gysylltiedig, sy’n rhan o brosiect consortiwm SERENA.
Mae SERENA (Assessing and improving access to health and social care SErvices for children RENdered vulnerable by Abuse) yn brosiect consortiwm a gyllidir gan Horizon Europe sy’n dod ag ymchwil ynghyd o 12 o wledydd ledled Ewrop. Mae’r tîm ym Mhrifysgol Caerdydd, ochr yn ochr â phartneriaid yn Nenmarc a Ffrainc, yn gyfrifol am fapio gwasanaethau presennol ar gyfer plant sydd wedi cael eu cam-drin a chanfod rhwystrau rhag cael mynediad at y gwasanaethau hyn. Defnyddiwyd dau ddull i gyflawni hyn: (1) Adolygiad llenyddiaeth systematig o astudiaethau mewn tair gwlad Ewropeaidd (y DU, Denmarc a Ffrainc) gyda’r nod o ddeall rhagor am ymchwil bresennol am argaeledd gwasanaethau a rhwystrau, a (2) chyfweliadau ansoddol ag oedolion a gafodd eu cam-drin yn blant, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol sy’n cynnig gwasanaethau cymorth ar ôl cam-driniaeth yng Nghymru, Denmarc a Ffrainc.
Bydd canfyddiadau allweddol yr adolygiad o’r llenyddiaeth a chanfyddiadau sy’n dod i’r amlwg o’r astudiaeth drwy gyfweliad yng Nghymru yn cael eu trafod, ochr yn ochr â dulliau, gwaith cynnwys y cyhoedd, a chynlluniau at y dyfodol ar gyfer yr ymchwil.
Bywgraffiadau
Mae Dr Jon Ablitt yn Gymrawd Ymchwil yn DECIPHer ac yng Nghanolfan Ymchwil Gofal Cymdeithasol i Oedolion (CARE) ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd. Mae wedi cynnal ymchwil gofal cymdeithasol ym maes camfanteisio troseddol ar blant, cefnogaeth ar ôl cam-drin, rôl yr heddlu mewn ysgolion, a chyfnodau pontio i fyd oedolyn plant sy’n derbyn gofal. Cafodd ei hyfforddi’n gymdeithasegydd ac mae ganddo arbenigedd mewn ymchwil ryngweithiadol, ethnofethodolegol ac ethnograffig.
Mae Dr Sarah Thompson yn Gymrawd Ymchwil yn DECIPHer ac yng Nghanolfan Gofal Cymdeithasol a Dysgu Deallusrwydd Artiffisial (SCALE) Prifysgol Caerdydd ar hyn o bryd. Mae ei diddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar bynciau gofal cymdeithasol, plant mewn gofal maeth/gofal gan berthynas, niwrowahaniaeth a gofal cymdeithasol plant. Mae gan Sarah gefndir ym maes seicoleg ac ymchwil gofal cymdeithasol plant ac mae ganddi arbenigedd mewn ystod o fethodolegau meintiol ac ansoddol.
