Gweminar:
Safbwyntiau proffesiynol ar ddefnyddio Storfa Ddiogelu Cymru

Cyflwynwyr: Beth Aynsley, Heddlu De Cymru ac Amanda Robinson, Prifysgol Caerdydd

Dyddiadau: Dydd Mawrth 8 Rhagfyr
Amser: 13:00 – 14:00
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Crynodeb

Mae Storfa Ddiogelu Cymru yn storfa ddigidol o adolygiadau diogelu o Gymru. Yn hanesyddol, roedd adolygiadau diogelu yng Nghymru yn dod o dan brosesau ar wahân yn dibynnu ar y math o ddioddefwr neu droseddwr, er enghraifft, Adolygiadau Ymarfer Plant, Adolygiadau Ymarfer Oedolion, Adolygiadau Llofruddiaeth Domestig, ac Adolygiadau Llofruddiaeth Iechyd Meddwl.

Fodd bynnag, roedd yr adolygiadau hyn yn aml yn cynnwys themâu cyffredin ac weithiau cynhaliwyd sawl adolygiad ar gyfer un digwyddiad. Mewn ymateb i hyn, dechreuodd Llywodraeth Cymru’r Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (SUSR), sy’n cwmpasu pob categori o adolygiad diogelu. Mae Canllawiau Statudol yr SUSR yn tynnu sylw at y ffaith y dylai gweithwyr proffesiynol gael mynediad at Storfa Ddiogelu Cymru i gael gwybodaeth berthnasol ym mhob cam o’r broses SUSR.

Mae’r weminar hon yn rhoi cyfle i ddysgu sut mae’r system adolygu diogelu gymharol newydd hon yn gweithio’n ymarferol, gan dynnu ar fewnwelediadau proffesiynol gan Gadeirydd ac Adolygydd SUSR profiadol ac arweinydd academaidd Storfa Ddiogelu Cymru. Bydd enghreifftiau o SUSRau diweddar yn dangos sut mae Storfa Ddiogelu Cymru yn hwyluso adolygiadau o ansawdd uwch ac argymhellion mwy cadarn.

Biographies

Mae Beth Aynsley yn Rheolwr Adolygiadau Statudol i Heddlu De Cymru ac mae’n cynrychioli’r heddlu fel aelod o banel ar adolygiadau diogelu. Mae hi wedi ymgymryd â rôl Cadeirydd ac Adolygydd ar gyfer Adolygiadau Ymarfer Oedolion a Phlant yn flaenorol ac ar hyn o bryd mae’n cadeirio tri Adolygiad Diogelu Unedig Sengl.

Yr Athro Amanda Robinson yw Cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesi er Diogelwch, Trosedd a Chudd-wybodaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi wedi arwain tîm rhyngddisgyblaethol o wyddonwyr cyfrifiadurol a gwyddonwyr cymdeithasol i ddatblygu Storfa Ddiogelu Cymru ar ran Llywodraeth Cymru ers 2020.