Sylwer: Cynhelir y digwyddiad hwn gan sefydliad allanol ac fe’i rhennir i dynnu sylw at gyfleoedd a allai fod o ddiddordeb i’n cymuned. Nid yw wedi’i drefnu na’i gymeradwyo gan ExChange, a dylid gwneud pob archeb, taliad ac ymholiad yn uniongyrchol gyda darparwr y digwyddiad. Nid yw ExChange yn gyfrifol am y cynnwys, y cyflwyniad nac unrhyw newidiadau sy’n ymwneud â’r digwyddiad hwn.
Rôl Aelodau Paneli: Llunio Cwestiynau
Mae’r cwrs hwn, sy’n cael ei gynnig gan CORAM BAAF, yn rhoi cyfle i aelodau paneli ddyfnhau eu dealltwriaeth o’r sgil hon sy’n aml yn cael ei danbrisio. Bydd aelodau’r panel yn gallu ymarfer beth i’w ofyn a sut i’w ofyn, ac ystyried eu gwerthoedd a’u credoau eu hunain a sut mae’r rhain yn dylanwadu ar eu ffordd o feddwl.
