Rydyn ni’n chwilio am addysgwyr ysbrydoledig ac arweinwyr ysgol i helpu i lunio rhaglenni dysgu proffesiynol cenedlaethol ar gyfer addysgwyr ledled Cymru.
Cyfleoedd Dylunydd / Ymgynghorydd:
- Digidol a Deallusrwydd Artiffisial (AI)
- Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
- Addysgeg
Gan weithio ochr yn ochr â’n harweinwyr cenedlaethol, byddwch yn helpu i ddylunio dysgu proffesiynol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn cael effaith ac yn cefnogi addysgwyr a dysgwyr ar draws Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddi@dysgu.llyw.cymru
Dyddiad cau: 5pm, 1 Hydref 2026
