Sylwer: Cynhelir y digwyddiad hwn gan sefydliad allanol ac fe’i rhennir i dynnu sylw at gyfleoedd a allai fod o ddiddordeb i’n cymuned. Nid yw wedi’i drefnu na’i gymeradwyo gan ExChange, a dylid gwneud pob archeb, taliad ac ymholiad yn uniongyrchol gyda darparwr y digwyddiad. Nid yw ExChange yn gyfrifol am y cynnwys, y cyflwyniad nac unrhyw newidiadau sy’n ymwneud â’r digwyddiad hwn.
Pryd a ble? Dydd Llun 9 Tachwedd ar Zoom
Yn y sesiwn hon byddwn ni’n canolbwyntio ar gynllunio cyd-gynhyrchu, y broses o’i roi ar waith, ac yn ystyried heriau posibl.
Mae’r sesiwn ddysgu hon ar gyfer y rheiny sydd eisoes â dealltwriaeth dda o hanfodion cyd-gynhyrchu, ond sy’n meddwl am sut y byddech chi’n mynd ati i’w cymhwyso i senario bywyd go iawn yn eich gwaith neu’ch cymuned.
Rydyn ni’n canolbwyntio ar gynllunio ymarferol cyd-gynhyrchu, yn gweithio drwy fap ffordd i’r broses o roi cyd-gynhyrchu ar waith, ac yn ystyried heriau a pheryglon posibl i fod yn effro iddyn nhw.
