Croeso i ExChange Wales

Daw ExChange Wales ag ymchwilwyr, gweithwyr a defnyddwyr gwasanaethau ynghyd i rannu arbenigedd, canfyddiadau ymchwil a phrofiadau o ofal.

About us - Amdanom Ni

Mae ExChange yn darparu hyfforddiant o safon uchel, yn rhad ac am ddim, er mwyn datblygu gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol. Arweinir ExChange Wales gan ganolfan ymchwil Cascade ym Mhrifysgol Caerdydd, â’i ariannu gan Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru.

CASCADE yw cartref Exchange

Wedi’i leoli yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol Caerdydd, nod CASCADE yw gwella lles, diogelwch a hawliau plant a’u teuluoedd trwy ymchwil. Rydym yn ymwneud â phob agwedd o ymatebion cymunedol i anghenion cymdeithasol plant a theuluoedd, gan gynnwys gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gwasanaethau plant mewn angen, amddiffyn plant, plant sy’n derbyn gofal a mabwysiadu.