Mae’r wefan hon yn darparu gwybodaeth i rieni, gofalwyr a phobl eraill sy’n poeni neu’n pryderu am gamfanteisio ar blant yn droseddol.

Mae’r wefan wedi’i datblygu yn seiliedig ar ganfyddiadau ein hymchwil o siarad â phobl ifanc sydd wedi cael eu hecsbloetio’n droseddol yng Nghymru, rhieni plant sydd wedi cael eu hecsbloetio a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd mewn gwasanaethau awdurdod lleol a gwirfoddol ledled Cymru.