Dileu Tlodi Plant Digwyddiad Cyfnewid Gwybodaeth

Beth nesa i deuluoedd BAME sy’n byw mewn tlodi ac yn wynebu effeithiau COVID 19?
03/11/2020
10:00yb – 12:30yp
Rhithwir, trwy Zoom (Heb ei osod Zoom? Os nad ydych wedi lawrlwytho Zoom, peidiwch â phoeni gallwch barhau i ymuno trwy eich porwr gwe)

Mae effaith COVID 19 wedi bod yn bellgyrhaeddol ac yn ddwfn i lawer o deuluoedd a’u plant yng Nghymru. Mae’r effaith ar deuluoedd a chymunedau BAME wedi bod yn anghymesur, ac mae effaith y clefyd, y cyfnod clo, cau ysgolion a hunan-ynysu wedi creu difrod mawr, gan amlygu llawer o anawsterau oedd eisoes yn bodoli, yn ogystal â chreu rhai newydd.

Bydd y digwyddiad cyfnewid gwybodaeth hwn yn cynyddu eich dealltwriaeth o effaith COVID 19 ar blant a theuluoedd BAME, yn nodi anghenion y gymuned hon yn awr ac yn y dyfodol, ac yn helpu i ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer.

Ein siaradwyr:

Fateha Ahmed, EYST
Trwy ei gwaith yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ar hyd yr argyfwng, mae gan Fateha gronfa o dystiolaeth i’w defnyddio a’i rhannu, er mwyn rhoi cipolwg agosach ar yr effeithiau.

Trudy Aspinall, TGP Cymru, Aelod o is-grŵp sosio-economaidd Grŵp Ymgynghorol COVID 19 BAME Prif Weinidog Cymru
Bydd Trudy yn rhannu prif ganfyddiadau adroddiad yr is-grŵp, sy’n nodi nifer o ffactorau allweddol yn y canlyniadau COVID anghymesur i gymunedau BAME, a bydd yn rhannu rhai o’r argymhellion allweddol a wnaed yn yr adroddiad.

Sesiwn Holi ac Ateb gyda’r Siaradwyr
Cyfle i wneud y canlynol:

Gofyn cwestiynau Dysgu o’u profiad Nodi’r camau nesaf
Ymchwilio i’r materion sy’n codi Llywio eich ymarfer

Trafodaethau mewn grwpiau llai:
Bydd pob un o’n grwpiau llai yn ystyried 4 cwestiwn:
Beth sydd ei angen ar blant a theuluoedd BAME yn awr ac yn ystod y 6 mis nesa?
Sut mae rhoi sylw i’r angen yma a chefnogi teuluoedd BAME trwy’r pandemig?
Ydych chi wrthi’n datblygu offer neu rywbeth tebyg gallech chi ei rannu?
Sut allwch chi weithio ar y cyd â sefydliadau eraill?

Pwy ddylai fod yn bresennol?
Mae’r digwyddiad wedi’i fwriadu ar gyfer ymarferwyr, rheolwyr, llunwyr penderfyniadau ac unrhyw un sy’n ymwneud â thlodi plant a theuluoedd a chymunedau BAME neu sydd â diddordeb yn y pynciau hynny.

Mae’r digwyddiad AM DDIM a nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael

Achub y Dyfodol: Grŵp Trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Atal Achosion o Gam-drin Plant yn Rhywiol

Dyddiad: 4ydd o Dachwedd 2020

Amser: 12.00 – 1.00yp

Lleoliad: rhith-gyfarfod

Achub y Dyfodol: Grŵp Trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Atal Achosion o Gam-drin Plant yn Rhywiol

Noddwydd gan Jayne Bryant MS

Covid 19 ac Adferiad

Bydd cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol yn canolbwyntio ar sut gallwn adfer er budd plant a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi wrth i ni barhau i fynd i’r afael ag effaith Covid 19. Bydd y siaradwyr a rhagor o fanylion yn cael eu cadarnhau cyn bo hir.

Ateber i Elinor Crouch-Puzey os gwelwch yn dda: Elinor.Crouch-Puzey@nspcc.org.uk

Gwasanaethau ar-lein ac iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal

Mae iechyd meddwl a lles da yn bwysig, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19. Gyda’r cyfyngiadau newydd ynghylch cadw pellter cymdeithasol, mae symudiad wedi bod at ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl ar-lein. Fodd bynnag, hyd yma, nid ydym yn gwybod y ffyrdd gorau i ddatblygu gwasanaethau ar-lein, na sut i addasu rhaglenni sydd wedi’u darparu wyneb yn wyneb o’r blaen fel eu bod yn llwyddiannus ar-lein. Mae angen ymchwilio i ddeall sut all ymyriadau symud i fod ar-lein, neu’n ddarpariaeth gyfunol (cymysgedd o wyneb yn wyneb ac ar-lein), pa fodelau yr ystyrir eu bod yn gweithio fwyaf effeithiol, a pha ymagweddau sydd angen rhagor o ddatblygiad, addasiad a gwerthusiad. Mae’r astudiaeth newydd hon, a ariannwyd gan y rhwydwaith TRIUMPH yn bwriadu ymchwilio sut i ddatblygu rhaglenni ar-lein orau i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae tîm o Brifysgol Caerdydd a Voices from Care Cymru yn gweithio gyda Rhwydwaith Maethu Cymru i wella gwasanaethau ar-lein er mwyn cefnogi iechyd meddwl a lles yn well.

Byddwn yn cyfweld ac yn rhedeg grwpiau ymgynghori gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, gofalwyr maeth, a gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol i ymchwilio i’w profiadau nhw o raglenni ar-lein, ac i ddeall beth maent eisiau gan wasanaethau ar-lein. Bydd hyn yn ein helpu i ystyried y ffordd orau i ddatblygu neu addasu gwasanaethau, a darganfod pa fathau o raglenni yr hoffai cyfranogwyr eu gweld yn y dyfodol.

Bydd canfyddiadau’r ymchwil yn ein galluogi i ddatblygu cyfres o ganllawiau ac egwyddorion i helpu llunwyr polisïau, ymarferwyr ac ymchwilwyr ynglŷn â llunio a/neu addasu rhaglenni i’w cynnig ar y we. Os ydych yn berson ifanc sydd â phrofiad o ofal, yn ofalwr maeth neu’n ymarferydd, ac yn awyddus i gyfrannu at ddatblygu gwasanaethau ar-lein i gefnogi iechyd meddwl a lles, cysylltwch â ni i roi gwybod!

Y STRATEGAETH GENEDLAETHOL AR GYFER YMCHWIL AC YMHOLIAD ADDYSGOL

CYFRES O SEMINARAU YMCHWIL

Mae’r seminarau hyn yn cael eu trefnu i gefnogi’r gwaith o feithrin capasiti a rhwydweithio fel rhan o’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ac Ymholiad Addysgol. Byddant yn agored i ymchwilwyr, ymarferwyr a gwneuthurwyr polisi.

Cynhelir y seminarau’n fisol (ar y dydd Mercher olaf y mis rhwng 3 a 4.30pm) ar TEAMS drwy gydol blwyddyn academaidd 2020-2021. Ni fydd mwy na 50 o bobl yn cael dod i’r seminarau i hwyluso rhyngweithio cymdeithasol rhwng cyfranogwyr a’i gilydd.

Mae’r rhaglen ar gyfer tymor yr hydref 2020 i’w gweld isod:

Dydd Mercher, 30 Medi 2020

Gwaith y Sefydliad Cydweithredol dros Ymchwil Addysg, Tystiolaeth ac Effaith

Yr Athro Carl Hughes, Prifysgol Bangor

Dr Richard Edwards, Prifysgol Bangor, Prifysgol Warwick a GwE

Dydd Iau, 22 Hydref 2020

Adlewyrchu ar brofiadau athrawon sy’n ymdrin ag Ymholiad Proffesiynol yng Nghymru

Bethan Gordon, yr Athro Gareth Loudon, Dr. David Aldous, Dr Anna Bryant, Dr. Jennie Clement a Gemma Mitchell, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Dydd Mercher, 25 Tachwedd 2020

Children’s Neighbourhood Scotland: Putting Poverty in Its Place

Yr Athro Chris Chapman ac Alison Drever, Prifysgol Glasgow.

Dydd Mercher, 16 Rhagfyr 2020

Strategaeth Ymchwil yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol

Tegwen Ellis a Chris Lewis, yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol I gadw lle yn y seminarau hyn, cysylltwch â Joanne.Smith013@gov.wales

Dileu Tlodi Plant Digwyddiad Cyfnewid Gwybodaeth

Beth nesa i deuluoedd BAME sy’n byw mewn tlodi ac yn wynebu effeithiau COVID 19?

03/11/2020
10:00yb – 12:30yp
Rhithwir, trwy Zoom
Heb ei osod Zoom? Os nad ydych wedi lawrlwytho Zoom, peidiwch â phoeni gallwch barhau i ymuno trwy eich porwr gwe

Mae effaith COVID 19 wedi bod yn bellgyrhaeddol ac yn ddwfn i lawer o deuluoedd a’u plant yng Nghymru. Mae’r effaith ar deuluoedd a chymunedau BAME wedi bod yn anghymesur, ac mae effaith y clefyd, y cyfnod clo, cau ysgolion a hunan-ynysu wedi creu difrod mawr, gan amlygu llawer o anawsterau oedd eisoes yn bodoli, yn ogystal â chreu rhai newydd.

Bydd y digwyddiad cyfnewid gwybodaeth hwn yn cynyddu eich dealltwriaeth o effaith COVID 19 ar blant a theuluoedd BAME, yn nodi anghenion y gymuned hon yn awr ac yn y dyfodol, ac yn helpu i ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer.

Ein siaradwyr:

Fateha Ahmed, EYST
Trwy ei gwaith yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ar hyd yr argyfwng, mae gan Fateha gronfa o dystiolaeth i’w defnyddio a’i rhannu, er mwyn rhoi cipolwg agosach ar yr effeithiau.

Trudy Aspinall, TGP Cymru, Aelod o is-grŵp sosio-economaidd Grŵp Ymgynghorol COVID 19 BAME Prif Weinidog Cymru
Bydd Trudy yn rhannu prif ganfyddiadau adroddiad yr is-grŵp, sy’n nodi nifer o ffactorau allweddol yn y canlyniadau COVID anghymesur i gymunedau BAME, a bydd yn rhannu rhai o’r argymhellion allweddol a wnaed yn yr adroddiad.

Sesiwn Holi ac Ateb gyda’r Siaradwyr
Cyfle i wneud y canlynol:
Gofyn cwestiynau Dysgu o’u profiad Nodi’r camau nesaf
Ymchwilio i’r materion sy’n codi Llywio eich ymarfer

Trafodaethau mewn grwpiau llai:
Bydd pob un o’n grwpiau llai yn ystyried 4 cwestiwn:
Beth sydd ei angen ar blant a theuluoedd BAME yn awr ac yn ystod y 6 mis nesa?
Sut mae rhoi sylw i’r angen yma a chefnogi teuluoedd BAME trwy’r pandemig?
Ydych chi wrthi’n datblygu offer neu rywbeth tebyg gallech chi ei rannu?
Sut allwch chi weithio ar y cyd â sefydliadau eraill?

Pwy ddylai fod yn bresennol?
Mae’r digwyddiad wedi’i fwriadu ar gyfer ymarferwyr, rheolwyr, llunwyr penderfyniadau ac unrhyw un sy’n ymwneud â thlodi plant a theuluoedd a chymunedau BAME neu sydd â diddordeb yn y pynciau hynny.

Mae’r digwyddiad AM DDIM a nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael

O Adnabod i Gefnogi: Asesu a gwella gwasanaethau i ofalwyr ifanc

Cyflwynir gan: Faaiza Bashir (Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru); Edward Janes (Prifysgol Caerdydd); Jen Lyttleton-Smith (Prifysgol Caerdydd)

CRYNODEB: Weithiau, disgrifir gofalwyr teuluol fel ‘byddin anweledig’ – grŵp mawr o ddinasyddion sy’n cynnal cyfran sylweddol o strategaeth gofal cymdeithasol y genedl. Mae gofalwyr sy’n blant, o’r enw ‘gofalwyr ifanc’ yn aml, yn grŵp sy’n arbennig o agored i niwed yn y ‘fyddin’ hon. Mae polisi ac ymarfer cyfredol ar gyfer adnabod a chefnogi gofalwyr ifanc yn amrywio ar draws Awdurdodau Lleol Cymru, ac mae lefel neu natur gweithgarwch ymyrryd yn cael eu harholi ymhellach.

Mae gan y grŵp hwn anghenion sylweddol ac amrywiol, ynghyd â phrofiadau gwahanol o darfiadau personol gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau a’r lefel o ofal sydd ei hangen ar aelodau eu teulu. Gallai addysg ac iechyd gynnig cefnogaeth sylweddol i’r plant a’r bobl ifanc hyn, ond mae ymchwil yn dangos ei bod hi’n anodd eu hadnabod a’u cefnogi yn effeithiol. Yn rhannol, mae hyn oherwydd diffyg cynllunio strategol ac arweiniad clir, tra bod y rhan fwyaf o ofalwyr ifanc yn sôn am anawsterau o ran cael cydnabyddiaeth am y gwaith gwerthfawr y maent yn ei wneud.

Mae’r gweithdy hwn yn canolbwyntio ar rannu gwybodaeth o ymchwil ddiweddar Prifysgol Caerdydd, a mewnwelediad a strategaeth ynglýn â pholisïau gan elusen genedlaethol Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Rydym yn hwyluso trafodaethau a arweinir gan ymarferwyr ynghylch profiadau cyffredin ac amrywiol o geisio cefnogi gofalwyr ifanc yn y ffordd orau, a datblygu dulliau ac argymhellion ar y cyd er mwyn gwella’r ddarpariaeth yng Nghymru. Ni ddylai unrhyw blentyn neu berson ifanc fod dan anfantais yn eu bywydau am fod yn ofalwr ifanc; mae’r gweithdy hwn yn cynnig y cyfle i ychwanegu eich profiad a’ch arbenigedd at y drafodaeth genedlaethol am sut gallwn eu gweld, gwrando arnynt a’u cefnogi’n well.

Beth gall gwaith cymdeithasol a gofal cymdeithasol ei ddysgu gan ddatblygu cymunedau ar sail asedau?

Date And Time
Tue, 17 November 2020
11:00 – 12:00 GMT

Cyflwynir gan: Dr Nick Andrews, Prifysgol Abertawe, Dr Oliver Davis, Prifysgol Caerdydd a David Horton, ACE Caerau Trelái.

Nid yw gwaith cymdeithasol a datblygu cymunedol yn cydweddu bob amser, yn enwedig o ran lle ceir pŵer ac ‘arbenigwyr’ (Walker 2016). Mae dau ddegawd o ddylanwadau neo-ryddfrydol ar waith cymdeithasol wedi gwthio’r proffesiwn fwyfwy tuag at ‘broffesiynoldeb’ rheolwriaethol, ar wahân, yn hytrach nag undod ac actifiaeth.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi paratoi’r ffordd at ailuno gwaith cymdeithasol a datblygu cymunedol gyda ffocws ar ffyrdd perthnasol yn hytrach na gweithdrefnol o weithio ac ail-ymgysylltu â chymunedau. Fodd bynnag, mae perygl y gallai hon droi’n fenter i bobl fachu a chamfanteisio arni, un sy’n canolbwyntio ar drosglwyddo cyfrifoldeb yn hytrach nag adnoddau a phŵer i gymunedau lleol.

Bydd y seminar hwn yn amlinellu agwedd benodol at ddatblygu cymunedol yn un o ardaloedd Caerdydd, sy’n seiliedig ar asedau a than arweiniad y bobl. Bydd yn cynnig naratif o ddatblygu cymunedol sy’n darlunio ei natur gymhleth, berthynol, greadigol a chynyddol. Nid yw’r fath agwedd yn cydweddu’n dda ag agweddau traddodiadol at gynllunio a gwerthuso mewn gofal cymdeithasol, sy’n yn aml yn ceisio rheoli a rhagweld yn hytrach na chanlyn y llif.

Caiff ffrwythau datblygu cymunedol ar sail asedau eu darlunio drwy’r enghraifft o brosiect treftadaeth sy’n cynnwys archaeolegwyr o Brifysgol Caerdydd. Bydd y seminar yn dod i ben gydag amlinelliad o agwedd adrodd straeon at werthuso’r fath waith sy’n canolbwyntio ar ddysgu yn hytrach na pherfformiad.

Yna, caiff y cyfranogwyr eu gwahodd i gymryd rhan mewn dialog am yr hyn y maent wedi’i ddysgu. Byddant yn ystyried y cyfleoedd a’r rhwystrau ynghylch gwneud i ddatblygu cymunedol a gofal cymunedol gyd-fynd yn well.

Pwy sy’n Gofalu am y Rhai sy’n Gadael Gofal?

Pwy sy’n Gofalu am y Rhai sy’n Gadael Gofal? Profiadau’r rhai sy’n gadael gofal yn ystod COVID-19 a’r cyfnod clo

Bydd y digwyddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth ddiweddar COVID-19 sydd wedi edrych ar brofiadau pobl ifanc a oedd yn y broses o adael gofal yng Nghymru a Lloegr yn ystod y cyfnod clo. Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys cyfraniadau gan bobl ifanc sy’n brofiadol o ofal gan Voices From Care Cymru.

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys cyfweliadau ansoddol gyda 21 o bobl ifanc ac yn cynnwys allbynnau creadigol o gelf a cherddi. Yn ogystal, cynhaliwyd arolwg gennym o adrannau awdurdodau lleol â’u mecanweithiau cymorth.

Mae’r canfyddiadau’n dangos profiadau amrywiol i bobl ifanc; roedd rhai’n teimlo’n ynysig a heb gael digon o ofal yn ystod y cyfnod clo, gyda chefnogaeth yn lleihau ac yn annigonol. Ac eto i eraill, roedd perthnasoedd ag unigolion allweddol ac amrywiaeth o fentrau lleol wedi lleihau heriau’r pandemig. Mae gwydnwch pobl ifanc yn werth ei nodi yn y canfyddiadau, a chynigir argymhellion i wella ymatebion cymorth pe bai cyfnod clo eto, yn ogystal â phan fydd cyfyngiadau’n cael eu codi’n llwyr.

Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno canfyddiadau’r astudiaeth hon, yn trafod yr argymhellion a godwyd o’r ymchwil a bydd yn cynnwys amser ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb ar y diwedd.

Cyflwynwyd gan Rachael Vaughan, Dr Alyson Rees a Dr Louise Roberts.

Buddion dwyffordd – Posibiliadau pobl anabl yn rôl cynhalwyr maeth

Mae prinder mawr cynhalwyr maeth yn Lloegr ac mae Prifysgol Caerwrangon wedi cynnal ymchwil i ddysgu pam nad yw pobl anabl yn cael eu dewis ar gyfer rôl cynhalwyr maeth.

Bydd y gweminar hwn yn cyflwyno canfyddiadau’r ymchwil gan gynnwys fideo fer sy’n disgrifio prif faterion moesegol ac ymarferol pwnc nad yw’n denu llawer o sylw ym maes cyfleoedd cyfartal.

Cynhaliodd y brifysgol yr ymchwil ar y cyd â rhwydwaith gwasanaethau i bobl anabl o’r enw Shaping Our Lives a Rhaglen Gydweithredol Gofal Maeth, gan astudio pedwar gwasanaeth maeth yn y sectorau statudol, preifat ac elusennol. Cynhyrchwyd y prosiect ar y cyd yn ôl dull ‘Ymchwil ar Waith’, gan newid polisïau ac arferion pan ddaeth materion i’r amlwg.

Fe roes un asiantaeth y gorau i’r prosiect ar ôl i’w rheolwyr newydd ddweud na fydden nhw o blaid parhau. Aeth y prosiect rhagddo rhwng 2018 a 2020 o dan nawdd DRILL (Disabled Research into Independent Living and Learning) a Chronfa Fawr y Lotri Wladol.

Gwelwyd bod sawl peth yn rhwystro pobl anabl rhag bod yn gynhalwyr maeth, er gwaetha’r ffaith bod gan lawer ohonyn nhw eu plant eu hunain ac amrywiaeth helaeth o fedrau perthnasol. Ymhlith y meini tramgwydd hynny mae rhagfarn proffesiynolion, diffyg eglurder am iechyd, prinder pobl i’w hefelychu ac ansicrwydd am hawl i fynnu budd-daliadau.

Roedd yn anodd ennyn diddordeb asiantaethau maethu a mudiadau pobl anabl mewn prosiect y gallen ni ei weld yn un lle y byddai pawb ar ei ennill – bydd pobl anabl yn cael dod o hyd i waith, bydd rhagor o drefniadau cartrefu ar gael i blant mae angen gofal arnyn nhw a bydd anawsterau denu cynhalwyr maeth yn llai o dipyn.

Cyflawnodd tîm yr ymchwil gynnydd ar draws y pedwar safle arbrofol a thrwy rhagor o sylw yn y cyfryngau, gan lwyddo i gyfweld 12 cynhaliwr maeth anabl sy’n dangos bod pobl o’r fath yn gallu llwyddo yn y rôl. Meddai Alison:

“… a minnau’n gynhaliwr maeth anabl, fyddwn i byth wedi disgwyl cael cyfle i ofalu am blentyn ac arno anghenion cymhleth. Roeddwn i’n disgwyl y byddai rhaid aros am sbel ac mai dim ond achosion hawdd fyddai ar gynnig ond dyw’r asiantaeth ddim wedi gwneud hynny a phob clod iddi.”

Meddai Jon:

“Mae dau o blant yn byw gyda fi ers bod yn fach iawn a dydyn nhw ddim yn gweld pobl anabl yn anarferol. Dyna fantais cynhwysiant – cydraddoldeb naturiol.”

Mae gobaith y bydd gweminarau megis menter ExChange yn helpu i ledaenu canfyddiadau’r prosiect ar draws y deyrnas. Trwy dynnu sylw at lwyddiant pobl megis Alison a Jon, dylai fod modd annog asiantaethau maethu a phobl anabl i fanteisio ar bosibiliadau helaeth cynhalwyr anabl. Mae Prifysgol Caerwrangon yn chwilio am arian i barhau â’r prosiect – mae corff maethu gwladol, CoramBAAF, wedi gofyn iddi lunio llawlyfr am gynhalwyr maeth anabl ac mae’n bwriadu cynnig hyfforddiant i asiantaethau maethu yn y maes hwn sydd heb ddenu llawer o sylw hyd yma.

Y Dr Peter Unwin, Prifysgol Caerwrangon, Becki Meakin, Shaping Our Lives