Dysgwch fwy am ein digwyddiadau a gweminarau sydd ar ddod, a sut y gallwch chi gofrestru, ar y dudalen hon. Am restr o ddigwyddiadau’r gorffennol, ewch i’n harchif.
Cryfhau'r system er budd plant sydd wedi dioddef camfanteisio troseddol – o ymwybyddiaeth i weithredu
Ar draws y DU, ac yn enwedig yng Nghymru, ceir ymwybyddiaeth gynyddol o gamfanteisio’n droseddol ar blant, ond mae ymarferwyr yn dal i fod wedi drysu ynglŷn â'r hyn sydd wir yn gweithio i'w cefnogi. Bydd y weminar hon yn archwilio tirwedd esblygol polisi, deddfwriaeth ac ymarfer, gan dynnu sylw at y cynnydd a wnaed a'r bylchau systemig sy'n dal i adael plant yn agored i niwed. Trwy gydol y weminar, byddwn yn archwilio cymhlethdod camfanteisio, deuoliaeth plant fel dioddefwyr a throseddwyr, a’r cyfyng-gyngor moesegol y mae hyn yn ei gyflwyno ar gyfer systemau diogelu a chyfiawnder, gan dynnu ar wybodaeth o'r Jay Review of Criminally Exploited Children: Shattered Lives, Stolen Futures.
Ar-lein, Teams
13:00
- 13/10/2025
Llithro drwy'r rhwyd - atal ac amddiffyn
Mae camfanteisio ar blant a phobl ifanc anabl niwrowahanol neu sydd ag anableddau dysgu yn bryder o ystyried y cyfraddau uwch o gam-drin a chamfanteisio a brofir gan blant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau. Bydd y cyflwyniad hwn yn ystyried anghenion y plant hyn a'u rhieni. Yn seiliedig ar astudiaeth a gyhoeddwyd yn 2024 â'r nod o edrych ar fylchau polisi, archwilio ymatebion ymarfer, ymgynghori ag ymarferwyr a rhieni plant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau, bydd y cyflwyniad hwn yn canolbwyntio ar y goblygiadau ar gyfer ymarfer. Bydd yn trin a thrafod bylchau mewn ymarfer a'r hyn y gall ymarferwyr ei wneud i ymateb mewn ffyrdd sy'n ceisio adnabod yn gynharach a cheisio ymatebion wedi'u teilwra'n fwy priodol. Ariannwyd yr astudiaeth gan y Ganolfan Polisi a Thystiolaeth Caethwasiaeth Fodern a Hawliau Dynol a cafodd ei chynnal gan Brifysgol Metropolitan Manceinion a Phrifysgol Portsmouth mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Portsmouth. Canfyddiadau’r adroddiad.
Ar-lein, Teams
12:00
- 04/11/2025
Mae ExChange Wales yn dod ag ymchwilwyr blaenllaw, ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaeth ynghyd i rannu arbenigedd, tystiolaeth ymchwil a phrofiadau o ofal.
Trwy ein cynadleddau, gweithdai, darlithoedd a seminarau, mae ExChange yn darparu hyfforddiant o ansawdd uchel am ddim i gefnogi datblygiad parhaus gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol ledled Cymru. Wrth ddenu siaradwyr cenedlaethol blaenllaw, rydym yn dysgu ac yn cynghori ymchwil sy’n effeithio polisi ac ymarfer. Mae ein digwyddiadau a’n hadnoddau yn cyfoethogi sgiliau wrth flaenori profiadau llaw gyntaf pobl â phrofiad o ofal.
Mae ystod o ffyrdd y gallwch chi weithio gydag ExChange. Os ydych chi am gynnal gweithdy ExChange, gweminar, podlediad neu flog, cysylltwch â ni.