
Tabl Cynnwys
Bwriad y gynhadledd hon yw mynd y tu hwnt i ddeall camfanteisio troseddol ar blant, a dechrau gweithredu. Er bod pwyslais cynyddol wedi cael ei roi ar ddiogelu amlasiantaethol, ceir diffyg deddfwriaeth o hyd am gaethwasiaeth fodern a chamfanteisio troseddol ar blant. Mae’n fater ym maes diogelu y dylid mynd i’r afael ag ef ar frys, ac mae’r gweminarau hyn yn canolbwyntio ar fynd y tu hwnt i ddeall y mater a dechrau gweithredu arno.
Bydd Dawn Bowden AS yn cyflwyno’r gynhadledd drwy gyfrwng anerchiad fideo, a bydd Llywodraeth Cymru yn lansio adnodd dysgu ar-lein Cymru Gwrthgaethwasiaeth yn fuan.
Bydd y gynhadledd hefyd yn tynnu sylw at ymchwil gyfredol ac adolygiad nodedig Jay o Blant sydd wedi dioddef Camfanteisio Troseddol: Shattered Lives, Stolen Futures, ac astudiaeth a gynhaliwyd gan y Rhwydwaith Caethwasiaeth Fodern ar fasnachu a chamfanteisio ar blant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau.
Cyflwyniad

Dawn Bowden AS:
Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
1 Hydref 2025 – 10:00 yb
Fideo

Interview with Michelle McTernan a Richard Mylan o Grand Ambition

Hot Chicks – stori ysgytwol am gamfanteisio a cholli diniweidrwydd
Dyma ddrama ysgytwol am gamfanteisio troseddol ar blant, lle mae’r awdur Rebecca Jade Hammond yn portreadu’n gelfydd y ffordd iasol y mae camfanteisiwr yn swyno plentyn, a’r fagl y mae’r plentyn yn syrthio iddi. Mae’r ddrama’n gadael y gynulleidfa’n ddiymadferth ac yn geg-agored wrth i’r stori ddatblygu, ac wrth i Ruby a Kyla ddod yn wystlon dan reolaeth ddiymdroi a chreulon Sadie.
Gweminarau

“Dydyn nhw ddim yn gweld pobl ifanc fel dioddefwyr camfanteisio”: Ymatebion amlasiantaeth i gamfanteisio troseddol ar blant yng Nghymru
Ymunwch â ni am drafodaeth ar ganfyddiadau astudiaeth a ariannwyd gan Gweithredu dros Blant a aeth i’r afael â safbwyntiau proffesiynol am ddulliau amlasiantaeth yng Nghymru. Bydd y sesiwn yn trafod trosolwg o ganfyddiadau grwpiau ffocws ac arolwg o Gymru gyfan ynghylch yr hyn sy’n gweithio a’r hyn sydd ei angen i wella dull diogelu amlasiantaeth ar gyfer plant sy’n dioddef camfanteisio troseddol.
Cyflwynydd: Dr Nina Maxwell, CASCADE, Prifysgol Caerdydd
Dyddiad: Dydd Merch 1 Hydref
Amser: 1-2yp
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Cryfhau’r system er budd plant sydd wedi dioddef camfanteisio troseddol – o ymwybyddiaeth i weithredu
Wrth i ymwybyddiaeth o gamfanteisio troseddol ar blant ehangu, mae dryswch yn parhau ynghylch yr hyn sy’n helpu go iawn. Mae’r weminar hon yn ymdrin â newidiadau mewn polisïau, problemau moesegol a chanfyddiadau Adolygiad Jay i deall yr hyn sy’n gweithio a’r hyn y mae angen ei wella o hyd.
Cyflwynydd: Sharon Maciver, Cyfarwyddwr Camfanteisio Troseddol (DU), Gweithredu dros Blant
Dyddiad: Dydd Llun 13 Hydref
Amser: 1-2yp
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Missing and Lost: Missing Children, Social Harm and Structural Violence
Bydd Dr Paul Andell yn trafod ffenomen plant sy’n mynd ar goll o ofal, gan osod y profiadau hyn mewn fframweithiau ehangach lle bydd trais strwythurol, niwed cymdeithasol ac esgeulustod sefydliadol. Gan ddefnyddio myfyrdodau personol, dadansoddi polisïau, astudiaethau achos, ac ymchwil ansoddol ddiweddar, mae’r cyflwynydd yn awgrymu nad digwyddiadau unigol yw achosion o blant sy’n mynd ar goll ond symptomau o fethiant systemig.
Cyflwynydd: Dr Paul Andell
Dyddiad: Dydd Mercer 22 Hydref
Amser: 1-2yp
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Llithro drwy’r rhwyd – atal ac amddiffyn
Mae camfanteisio ar blant a phobl ifanc niwrowahanol neu sydd ag anabledd dysgu yn bryder o ystyried y cyfraddau uwch o gam-drin a chamfanteisio y bydd plant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau yn eu dioddef. Bydd y cyflwyniad hwn yn ystyried anghenion y plant hyn a’u rhieni o ran cael cymorth a chefnogaeth.
Cyflwynwyr: Sarah Goff ac Anita Franklin, Prifysgol Metropolitan Manceinion
Dyddiad: Dydd Mawrth 4 Tachwedd
Amser: 12-1yp
Lleoliad: Ar-lein, Teams
Podlediad

PODLEDIAD: ‘Improving Transitional Safeguarding’ gyda Steve Baguley a Finn Madell
Dr Martin Elliott yn cyfweld â Finn Madell a Steve Baguley ynglŷn â sut i wella diogelu dros dro i helpu i atal camfanteisio troseddol ar blant a phobl ifanc.
Maent yn trafod ei gymhwysiad yng Nghymru, cyfarfodydd Camfanteisio Aml-Asiantaethol ar Blant Casnewydd (MACEs), ac yn myfyrio ar ddyfodol diogelu, newid deddfwriaeth a gwella cyfathrebu rhwng gwasanaethau plant ac oedolion.
Adnoddau
- Gwefan Diogelu Cymhleth – https://www.cardiff.ac.uk/cy/complex-safeguarding-wales
- Dolenni i wefan NWG – https://nwgnetwork.org/
- Hyb adnoddau’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid – https://yjresourcehub.uk/
- Adolygiad Jay o Blant sydd wedi dioddef Camfanteisio Troseddol: Shattered Lives, Stolen Futures – https://www.actionforchildren.org.uk/our-work-and-impact/policy-work-campaigns-and-research/policy-reports/the-jay-review-of-criminally-exploited-children/
- Astudiaeth Rhwydwaith Caethwasiaeth Fodern: Trafficking and exploitation of children with special educational needs and disability – https://www.modernslaverypec.org/resources/children-special-needs-disabilities
- Adolygiad o ‘Hot Chicks’ – stori ysgytwol am gamfanteisio a cholli diniweidrwydd –https://cascadewales.org/hot-chicks-review-a-powerful-tale-of-exploitation-and-lost-innocence/
- Ymchwil am yr Heddlu mewn Ysgolion (CASCADE) –https://cascadewales.org/cy/research/heddlu-mewn-ysgolion/
- Sioeau Teithiol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru
- Yng ngwanwyn 2025, cynhaliodd Gofal Cymdeithasol Cymru ddwy sioe deithiol ymchwil ar thema diogelu drwy’r cyfnod pontio. Ar ôl diddordeb pellach gan fyrddau diogelu rhanbarthol, mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnal dwy sesiwn arall yr Hydref hwn:
- 9 Hydref yn Nhŷ Bryngarw, Pen-y-bont ar Ogwr.
- 10 Hydref yn Sefydliad Gorseinon, Gorseinon, Abertawe.
- Mae lleoedd cyfyngedig ar ôl ond os hoffech ymuno â nhw am y diwrnod, cysylltwch â researchroadshows@socialcare.wales
- Yng ngwanwyn 2025, cynhaliodd Gofal Cymdeithasol Cymru ddwy sioe deithiol ymchwil ar thema diogelu drwy’r cyfnod pontio. Ar ôl diddordeb pellach gan fyrddau diogelu rhanbarthol, mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnal dwy sesiwn arall yr Hydref hwn:
- Adnoddau dysgu ar-lein newydd Gwrthgaethwasiaeth Cymru: Nod yr adnoddau hyn yw gwella’r wybodaeth am gaethwasiaeth fodern, codi ymwybyddiaeth ohoni, ac annog ffyrdd effeithiol o fynd i’r afael â hi.
- I gael rhagor o wybodaeth: Datganiad Ysgrifenedig
- Mae’r modiwlau hyfforddi ar gael yma: Cwrs: Gwrthgaethwasiaeth Cymru

