Tystiolaeth ar y berthynas rhwng gwariant a chyfraddau ymyrraeth yn Lloegr a pha wersi allai fod i Gymru. 

Siaradwr: Dr Calum Webb 

Dyddiad: Dydd Mercher 30 Ebrill
Amser: 1:00-2:00 yp
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Crynodeb 

Gyda’r argyfwng presennol a’r cyfnod o ddiwygio ym maes gofal cymdeithasol plant yn Lloegr, mae ailfuddsoddi mewn gwasanaethau sy’n cefnogi teuluoedd yn bwysicach nag erioed. Yn y seminar hon, bydd Calum Webb yn cyflwyno canfyddiadau o ddadansoddiad helaeth o’r cysylltiad rhwng y gwariant ar wasanaethau atal a chymorth i blant a theuluoedd a’r cyfraddau ymyriadau lles plant yn Lloegr. Caiff hyn ei ddilyn gan drafodaeth ar ganlyniadau posibl a pherthnasedd y canfyddiadau i Gymru.

Bywgraffiad

Ymunodd Dr Calum Webb â Sheffield Methods Institute yn Gymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol yr Academi Brydeinig ym mis Medi 2021, wedi iddo fod yn Gydymaith Ymchwil yn yr Adran Astudiaethau Cymdeithasegol. Mae ei ymchwil yn trin a thrafod anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol yn y system lles plant a’u perthynas â pholisi ariannol a chymdeithasol gan ddefnyddio dulliau ymchwil meintiol. Mae ei ymchwil ar anghydraddoldebau lles plant ac ariannu gwasanaethau lleol i blant a phobl ifanc wedi cael ei gyhoeddi mewn ystod o gyfnodolion academaidd adnabyddus.