Diffinio cam-drin plant at ddibenion ymchwil a chadw golwg: astudiaeth gonsensws Delphi ryngwladol, aml-sector mewn 34 o wledydd yn Ewrop a’r rhanbarthau cyfagos.

Siaradwr: Dr Laura Cowley

Dyddiad: Dydd Mercher 10 mis Medi
Amser: 1:00-2:00yp
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Crynodeb

Ymunwch â ni am weminar lle byddwn ni’n treiddio’n ddyfnach i gymhlethdodau’r pwnc o gam-drin plant, sy’n fater o bwys i iechyd y cyhoedd ac sydd â goblygiadau gydol oes. Mae’r weminar hon yn seiliedig ar astudiaeth Delphi Ewropeaidd arloesol, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Lancet Regional Health – Europe. Bydd yn trin a thrafod ymdrechion i benderfynu ar ddiffiniad unedig o gam drin plant i wella sut mae’n cael ei fesur a’i olrhain ledled Ewrop.

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys panel arbenigol amlddisgyblaethol o 70 o weithwyr proffesiynol o 34 o wledydd, a gymerodd ran mewn tair rownd o arolygon i gyrraedd consensws ar 26 allan o 31 o ddatganiadau allweddol. Y canlyniad yw bod yna bellach ddiffiniad cynhwysfawr o gam-drin plant i fod yn fath o drais yn erbyn plant. Mae’n cynnwys esgeulustod a cham-drin corfforol, rhywiol neu seicolegol sy’n achosi niwed, neu sydd gyda’r potensial i achosi niwed gan unigolion sydd mewn sefyllfa o rym dros y plentyn. Mae’r astudiaeth yn mynd i’r afael yn arbennig ag agweddau hanfodol o esgeulustod a cham-drin seicolegol, gan egluro’r gwahanol fathau o gam-drin a’r nodweddion allweddol yn glir.

Bydd y weminar hon yn ystyried:

  • 🎯 Methodoleg yr astudiaeth a defnyddio’r broses Delphi i gyrraedd consensws rhyngwladol
  • 🎯 Y canfyddiadau allweddol, gan gynnwys diffiniad o gam-drin plant a’r gwahanol fathau ohono.
  • 🎯 Pwysigrwydd y diffiniad unedig hwn at ddibenion ymchwil, cadw golwg ac ac ymdrechion i ymyrryd ledled Ewrop

Mae’r weminar hon yn addas i weithwyr proffesiynol ym maes lles plant, iechyd y cyhoedd, llunio polisïau, ac y rhai sy’n gwneud gwaith ymchwil sydd eisiau gwella systemau amddiffyn plant a hyrwyddo ymyriadau sy’n seiliedig ar ddata.

Bywgraffiad byr:

Mae Dr Laura Cowley yn Swyddog Ymchwil ac yn Wyddonydd Data ym Mhrifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd mae Laura yn gweithio ar nifer o brosiectau sy’n ymwneud â cham-drin plant a gofal cymdeithasol. Y cyntaf yw Cymrodoriaeth Gofal Cymdeithasol tair blynedd o hyd a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a fydd yn defnyddio data gweinyddol i ddatblygu offer rhagfynegol i helpu ymarferwyr i adnabod pa blant yng Nghymru sydd angen ymyrraeth gynnar a chymorth. Yr ail yw’r prosiect COMFT a ariennir gan ESRC, sy’n edrych ar beth sy’n digwydd i blant sydd â mamau yn y carchar. Y trydydd yw’r prosiect SERENA a ariennir gan Horizon Europe sy’n edrych ar ganlyniadau hirdymor a llwybrau i blant sy’n cael eu cam-drin yn Ewrop gan ddefnyddio dulliau cymysg.