
Llithro drwy’r rhwyd – atal ac amddiffyn: Camfanteisio ar blant a phobl ifanc niwrowahanol neu sydd ag anableddau dysgu.
Presenter: Sarah Goff and Anita Franklin, Manchester Metropolitan University
Dyddiad: Dydd Mawrth 4 Tachwedd
Amser: 12:00 – 13:00
Lleoliad: Ar-lein
Crynodeb:
Mae camfanteisio ar blant a phobl ifanc anabl niwrowahanol neu sydd ag anableddau dysgu yn bryder o ystyried y cyfraddau uwch o gam-drin a chamfanteisio a brofir gan blant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau. Bydd y cyflwyniad hwn yn ystyried anghenion y plant hyn a’u rhieni.
Yn seiliedig ar astudiaeth a gyhoeddwyd yn 2024 â’r nod o edrych ar fylchau polisi, archwilio ymatebion ymarfer, ymgynghori ag ymarferwyr a rhieni plant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau, bydd y cyflwyniad hwn yn canolbwyntio ar y goblygiadau ar gyfer ymarfer. Bydd yn trin a thrafod bylchau mewn ymarfer a’r hyn y gall ymarferwyr ei wneud i ymateb mewn ffyrdd sy’n ceisio adnabod yn gynharach a cheisio ymatebion wedi’u teilwra’n fwy priodol.
Ariannwyd yr astudiaeth gan y Ganolfan Polisi a Thystiolaeth Caethwasiaeth Fodern a Hawliau Dynol a cafodd ei chynnal gan Brifysgol Metropolitan Manceinion a Phrifysgol Portsmouth mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Portsmouth. Canfyddiadau’r adroddiad.
Bywgraffiad:
Roedd Sarah Goff yn rhan o’r tîm a gynhaliodd yr astudiaeth uchod. Wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion mae hi’n gweithio gyda’r Athro Anita Franklin a Dr Jo Greenaway gan ganolbwyntio ar ddiogelu anghenion plant anabl. Mae hi’n cadeirio’r Gweithgor Cenedlaethol ar Ddiogelu Plant Anabl yn Lloegr, yn ogystal â grŵp ar blant anabl Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain, ac yn cyd-gadeirio grŵp ar ddiogelu plant anabl ar gyfer y Gymdeithas Gweithwyr Proffesiynol ym maes Amddiffyn Plant. Mae hi hefyd yn astudio ar gyfer doethuriaeth broffesiynol sy’n edrych ar gyfathrebu â phlant niwrowahanol neu sydd ag anableddau dysgu mewn ymholiadau camdriniaeth/camfanteisio rhywiol ar blant.