Mae deunyddiau ymarfer Gofal ac Addysg yn cynnwys adnoddau a ddefnyddir gan ymarferwyr addysg a gofal cymdeithasol i gefnogi addysg plant a phobl ifanc sydd â phrofiad gofal. Ar hyn o bryd mae’n canolbwyntio ar gyngor a gyfrannwyd gan sefydliadau i gynorthwyo pobl yn eu hymarfer. Fodd bynnag, rydym wrthi’n chwilio am enghreifftiau o adnoddau a ddefnyddir yn uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc. Os oes gennych chi ddeunyddiau rydych chi’n eu defnyddio ac yr hoffech chi eu rhannu, rhowch wybod i ni trwy gysylltu ag ExChange: Care & Education yn contact@exchangewales.org.