Mae adroddiad newydd o’r enw Llwyddiant – diffiniad pwy sy’n cyfrif? bellach wedi’i gyhoeddi. Cafodd y prosiect pedair blynedd y tu ôl i’r adroddiad hwn ei gyd-gynllunio gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a’i gomisiynu gan Become, yr elusen genedlaethol i blant mewn gofal a phobl ifanc sy’n gadael gofal. Datblygodd y tîm Arolwg Llwyddiant newydd a fframwaith sy’n rhoi sylw i’r hyn y mae pobl ifanc eu hunain yn ei ystyried yn bwysig – gan gynnwys sefydlogrwydd, cymuned, hunan-gred, a chydnabyddiaeth o gyflawniadau bob dydd.