Mae’r adroddiad yn seiliedig ar ymchwil gyda dros 780 o rieni yng Nghymru, adolygiad cynhwysfawr o gynigion diweddar ar gyfer diwygio Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar (AGPC), a chyfweliadau â rhanddeiliaid arbenigol. Mae’n nodi pum egwyddor allweddol ar gyfer AGPC effeithiol, ynghyd â nifer o argymhellion i weithredu’r rhain:

– Cyfeirio buddsoddiad lle mae’n cael yr effaith fwyaf
– Defnyddio cyllid i sicrhau bod y ddarpariaeth yn un o ansawdd uchel, yn gynaliadwy ac yn deg
– Darparu’r nifer cywir o oriau
– Sicrhau hyblygrwydd i ddiwallu anghenion teuluoedd
– Darparu gwasanaethau integredig.