
Lansaid Llyfr gweminar: Sandboxing in Practice – Qualitative Interviewing with Sand, Objects, and Figures
Awduron a chyflwynwyr: Dawn Mannay & Victoria Timperley
Dyddiad: Dydd Mercher 9 Gorffennaf 2025
Amser: 1:00yp-2:00yp
Lleoliad: Ar-lein, Teams
Ynghylch y gweminar:
Mae Dawn Mannay a Victoria Timperley yn cyflwyno eu canllaw hanfodol i dechneg ymchwil ansoddol arloesol bocsio tywod. Yn tarddu o therapi chwarae, mae bocsio tywod yn galluogi plant, pobl ifanc ac oedolion i greu golygfeydd tri dimensiwn gan ddefnyddio ffigurau bach a gwrthrychau bob dydd mewn hambwrdd o dywod. Mae creu’r golygfeydd tywod hyn yn cynnig cyfleoedd i unigolion a grwpiau gynrychioli atgofion, profiadau bob dydd a syniadau am y dyfodol, sydd wedyn yn cael eu rhannu a’u trafod.
Gan gynnig adnodd amhrisiadwy i fyfyrwyr, ymchwilwyr ac ymarferwyr, mae’r llyfr cynhwysfawr hwn:
– yn cyflwyno dull creadigol a diddorol o gynhyrchu data ansoddol;
– yn cynnwys astudiaethau achos rhyngwladol allweddol, enghreifftiau o’r byd go iawn, a myfyrdodau meddylgar ar gryfderau a chyfyngiadau’r dull;
– yn rhoi’r offer sydd eu hangen ar ddarllenwyr i weithredu bocsio tywod yn effeithiol yn eu taith ymchwil.
Trwy dynnu ar greadigrwydd, myfyrdod, moeseg ac arbenigedd, mae’r llyfr hwn yn datgloi potensial bocsio tywod i drawsnewid eich ymchwil gyda dull dyfeisgar a dychmygus.
Gallwch brynu’r llyfr ar Policy Press.