Cynrychiolaeth a chyflwyniad creadigol o safbwyntiau, profiadau a doniau plant a phobl ifanc â phrofiad o ofal

Dr Emily Whyte

Cefndir

Roedd fy ymchwil ddoethurol ym Mhrifysgol Glasgow Caledonian (GCU) yn rhychwantu’r ffin rhwng gwaith cymdeithasol a seicoleg, am iddi archwilio sut y gall gweithgarwch corfforol ddylanwadu ar iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc â phrofiad o ofal. Fel Ymarferydd-Ymchwilydd, gweithiais ochr yn ochr â phlant a phobl ifanc â phrofiad o ofal gan ddefnyddio dulliau cyfranogol, gyda’r unigolyn yn y canol, yn seiliedig ar gryfderau, gyda’r llais yn arwain, a’m helpodd i wrando a dysgu, yn hytrach na gosod yr agenda ymchwil neu fy safbwyntiau fy hun. Cefais fy arwain gan egwyddorion cyd-gynhyrchu ac egwyddorion ystyriol o drawma ac roeddwn yn ymrwymedig i feithrin ymddiriedaeth berthynol gyda phlant a phobl ifanc â phrofiad o ofal cyn, yn ystod ac ar ôl yr ymchwil, yn y gobaith y gallem greu adnodd gyda’n gilydd a oedd yn teimlo’n ystyrlon i ni i gyd.

Prif ganfyddiadau

Er bod cydnabyddiaeth eang bod nifer o fanteision tymor byrrach i weithgarwch corfforol ar draws poblogaethau amrywiol, archwiliodd yr ymchwil y dylanwad tymor hwy a’r newid pwyslais y gall gweithgarwch corfforol ei gael ar blant a phobl ifanc â phrofiad o ofal. Amlygodd yr astudiaeth fod cyd-destun yn bwysig — mae angen ystyried pwy sy’n cyflwyno prosiectau gweithgarwch corfforol, sut, pryd a ble, oherwydd y gall alinio ffactorau cyd-destunol â gwerthoedd sy’n canolbwyntio ar ddewis, cysondeb, cynwysoldeb, diogelwch a hygyrchedd benderfynu a fydd gweithgarwch corfforol yn arwain at fanteision iechyd meddwl a lles tymor hwy, yn enwedig am fod plant a phobl ifanc â phrofiad o ofal ar brydiau’n gorfod llywio ansefydlogrwydd yn eu cartref, eu haddysg a’u perthnasoedd Whyte ac eraill, 2023). Argymhelliad yn sgil y canfyddiad hwn yw i brosiectau gweithgarwch corfforol gael eu cynllunio gan blant a phobl ifanc â phrofiad o ofal, fel bod ganddyn nhw bŵer i wneud penderfyniadau ynghylch sut mae gweithgarwch corfforol yn cael ei ddarparu, a’r ffyrdd y gall gefnogi iechyd a datblygiad (Whyte, 2024). Canfyddiad allweddol arall yw’r angen am weithredu cydweithredol a chyfannol rhwng prosiectau gweithgarwch corfforol a llawer o wasanaethau  i helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac anghyfiawnder i blant a phobl ifanc â phrofiad o ofal, yn enwedig oherwydd nad yw cymorth iechyd meddwl yn cael ei ddarparu’n gyson ar gyfer plant a phobl ifanc â phrofiad o ofal drwy gydol eu taith gofal (Whyte, 2024).

Cynrychiolaeth a chyflwyniad creadigol 

Er mwyn sicrhau bod hanesion personol plant a phobl ifanc â phrofiad o ofal yn cael eu clywed a bod potensial i gymryd camau yn eu cylch, fe wnaethon ni greu straeon digidol a drama i gynrychioli a chyflwyno safbwyntiau, profiadau a doniau plant a phobl ifanc â phrofiad o ofal yn greadigol. Cafodd y ddrama, o’r enw Healing Pitch, ei chyd-ysgrifennu gyda phedwar person ifanc, ac mae’n cyfuno data ymchwil (gan gynnwys barddoniaeth) o gyfweliadau, nodiadau maes ac arsylwi ac mae’n cynrychioli a chyflwyno hanesion personol y bobl ifanc, air am air, o’u profiadau o fod mewn gofal, eu hangerdd am bêl-droed, a’u taith iechyd meddwl. Fe wnaethon ni ffilmio darlleniad llwyfan o’r ddrama i’w defnyddio fel adnodd rhyngbroffesiynol mewn addysgu ac ymarfer i bobl â diddordeb mewn dysgu mwy am y pynciau, a’r hyn y mae angen ei newid yn y system ofal i gefnogi plant a phobl ifanc â phrofiad o ofal yn well.

Mae’r ffilm wedi’i rhannu drwy ddangosiadau wyneb yn wyneb a gweminarau ar-lein ac mae wedi denu adborth cadarnhaol:

Perthnasedd i hyfforddiant ac ymarfer gwaith cymdeithasol

“Galla i wir ddychmygu y bydd y ffilm yn offeryn defnyddiol i weithwyr cymdeithasol dan hyfforddiant. “

“Fel myfyriwr gwaith cymdeithasol mae hyn wedi gwneud i mi feddwl am y rhyngweithio a gaf fi gyda phlant a phobl ifanc â phrofiad o ofal, a sut mae fy nghyfathrebu’n glanio. “

“Pan fydda i’n dod yn weithiwr cymdeithasol, byddwn am ddefnyddio’r ffilm yma gyda chydweithwyr a gofalwyr, yn enwedig y rhai nad ydyn nhw wedi cael profiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth neu drawma. “

“Gwnaeth y ffilm wir wneud i mi stopio a meddwl am sut rydyn ni’n delio gyda lleisiau plant a phobl ifanc â phrofiad o ofal yn ymarferol”.

Dilysrwydd a dylanwad emosiynol

“Fe wnes i fwynhau symlrwydd y ffilm yn fawr. Roedd yn teimlo’n wirioneddol ddilys, ac roedd uniondeb yr actor o’r cymeriadau unigol i weld mor gryf, ac yn gwbl gredadwy. Roedd y ffilm yn llawn mewnwelediadau a dysgu. Rwy’ wir wrth fy modd â’r awgrym gan un o’r cymeriadau y dylai fod gan blant a phobl ifanc â phrofiad o ofal therapyddion o ddechrau eu profiad gofal.”

“Roedd y ffilm yn graff ac yn onest iawn. Dwi ddim yn siŵr os dwi erioed, mewn mwy nag 20 mlynedd yn y byd academaidd, wedi bod i gyflwyniad ar ganlyniadau ymchwil sydd wedi gwneud i mi deimlo’n wirioneddol emosiynol. Roedd yna gymysgedd hynod ddiddorol o “Ie, dyna beth fyddwn i’n ei ddisgwyl” a “Waw, doeddwn i erioed wedi meddwl amdano fel yna o’r blaen” ac (yn gwisgo fy het ymchwil yn gadarn) roedd cymaint o ffyrdd y gellid dilyn i fyny ar hyn.”

“Roedden ni’n meddwl bod y defnydd o iaith yn dda iawn – nid iaith academaidd mohoni; roedd yn bersonol iawn, roedd yn teimlo’n real, a bydd yn hawdd i bobl o bob oed ei deall.”

I ddysgu mwy am yr ymchwil, dylech:

Cyfeiriadau

Whyte, E., McCann, B., McCarthy, PJ, & Jackson, S. (2023) A Narrative Review that Explores the Influence of Physical Activity on Care Experienced Children and Young People’s Mental Health and Wellbeing. Childcare in Practice, 1–22. https://doi.org/10.1080/13575279.2023.2258086

Whyte, E. (2024). Exploring the Influence of Physical Activity on the Mental Health and Well-Being of Care-Experienced Children and Young People: A Participatory and Voice-Led Approach [Traethawd Hir Doethurol, Prifysgol Glasgow Caledonian]. https://doi.org/10.59019/WMCY4199