Cerdyn Rheilffordd 16–17

Os ydych chi mewn addysg neu hyfforddiant ac yn teithio ar y trên, gallwch chi gael tocynnau trên i blant am hanner y pris wrth brynu cerdyn rheilffordd 16 i 17 oed.


Costau Trafnidiaeth Addysg Bellach

Cymorth gyda chostau trafnidiaeth am ddim neu gymhorthdal ​​i ddysgwyr ôl-16.


Parod ar gyfer y Brifysgol

Casgliad o adnoddau gan holl brifysgolion Cymru i’ch helpu i ddechrau arni ym myd Addysg Uwch.


Gwarant Person Ifanc

Ydych chi rhwng 16 a 24 oed? Ydych chi’n ansicr ynghylch beth ddylech chi ei wneud neu ba opsiynau sydd gennych chi? Peidiwch â phoeni, mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael i chi.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Cymru’n Gweithio.


Ydych chi’n poeni am ganlyniadau eich arholiadau? Gall SilverCloud® Cymru helpu

Mae SilverCloud® Cymru yn cynnig amrywiaeth o raglenni cymorth ar-lein dan arweiniad i helpu gyda symptomau ysgafn i gymedrol o straen, pryder, iselder a mwy.


Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (AB)

Grant i fyfyrwyr 19 oed neu hŷn sy’n astudio cwrs addysg bellach mewn coleg.


Pris tocynnau bws am £1 i bobl ifanc 16–21 oed

Dim ond £1 fydd pris tocynnau unffordd a bydd tocynnau dydd gwerth £3 ar gael hefyd. Bydd yn caniatáu i bobl ifanc fwynhau teithio hwb gyfyngiad gydag unrhyw wasanaethau bws sy’n cymryd rhan o 1 Medi am flwyddyn.

Mae rhagor o wybodaeth am sut y bydd y cynllun yn gweithio ar gael yn fyngherdynteithio.


Mae Grant Hanfodion Ysgol ar gael i helpu gyda chostau ysgol

Mae’r Grant Hanfodion Ysgol ar gael i deuluoedd ar incwm is a’r rhai sy’n gymwys ar gyfer rhai budd-daliadau. Mae pob plentyn sy’n derbyn gofal hefyd yn gymwys ar gyfer y grant. 


Y Grant Hanfodion Ysgol 1 Gorffennaf 2026 tan 31 Mai 2027.

Mae hyn yn cynnwys cymorth gyda chostau gwisg ysgol.


Barod ar gyfer prifysgol

Casgliad o adnoddau o bob un o brifysgolion Cymru i’ch helpu i ddechrau gydag addysg uwch.


Gwarant i Bobl Ifanc

Ydych chi rhwng 16 a 24 oed? Ddim yn siŵr beth yw eich opsiynau neu beth yw eich camau nesaf? Peidiwch poeni, mae cyfleoedd o bob math ar gael ichi.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Cymru’n Gweithio


Ydych chi’n poeni am ganlyniadau arholiadau? Gall SilverCloud® Wales helpu

Mae SilverCloud® Wales yn darparu ystod o raglenni cymorth ar-lein dan arweiniad i helpu gyda symptomau ysgafn i gymedrol straen, pryder, iselder a mwy.


Lwfans Cynhaliaeth Addysg

Taliad i bobl ifanc 16 i 18 oed sydd am barhau â’u haddysg


Grant Dysgu Llywodraeth Cymru Addysg Bellach

Grant i fyfyrwyr 19 oed neu hŷn sy’n astudio cwrs addysg bellach mewn coleg


Tocyn bws £1 i bobl ifanc o fis Medi

Bydd prisiau sengl yn costio £1 a bydd tocynnau diwrnod £3 ar gael hefyd. Bydd yn  caniatáu i bobl ifanc i fwynhau teithio diderfyn gydag unrhyw wasanaethau bws sy’n cymryd rhan o’r 1 Medi am flwyddyn.

Mae mwy o wybodaeth am sut y bydd y cynllun hwn yn gweithio ar gael ar mytravelpass.


Apeliadau arholiadau am ddim i ddysgwyr sydd o dan anfantais economaidd

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu cost apeliadau i ddysgwyr sy’n ymgymryd â chymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yn ystod haf 2025 sydd dan anfantais economaidd.

Apeliadau arholiadau am ddim i ddysgwyr sydd o dan anfantais economaidd


Prydau Ysgol am Ddim

O fis Medi 2024, bydd pob plentyn ysgol gynradd yn cael prydau ysgol am ddim.

Gall disgyblion ysgol uwchradd fod yn gymwys os yw eu rhieni neu eu gofalwyr yn cael budd-daliadau penodol. I wneud cais ewch i dudalen Llywodraeth Cymru ar gyfer costau ysgolion.


Awgrymiadau i reoli gorbryder a lles

Os yw’ch plentyn yn pryderu am ddychwelyd i’r ysgol, mae Gweithredu dros Blant wedi cynnig awgrymiadau.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig pecyn cymorth o adnoddau i helpu teuluoedd i ymgysylltu â’r ysgol.

Mae gan Twinkl lawer o adnoddau y mae modd eu hidlo yn ôl grŵp oedran a all helpu i reoli pryderon a gorbryder ynghylch dychwelyd i’r ysgol a chefnogi gweithgareddau addysgol. Mae adnoddau ar gael yn y Gymraeg hefyd.