Datblygu pecyn clinigol i gynorthwyo darganfod heintiau difrifol mewn plant mewn gofal sylfaenol
• Ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr i blentyn 5 oed neu iau?
• Ydych chi wedi mynd â’ch plentyn at y meddyg teulu pan maen nhw’n sâl?
• Oes gennych chi ddiddordeb mewn helpu gydag astudiaeth ymchwil?
Hoffen ni glywed am eich profiadau o ofalu am blentyn ifanc pan maen nhw’n sâl, er enghraifft mynd â nhw at y meddyg pan fydd ganddyn nhw haint.
Rydyn ni hefyd eisiau clywed eich barn am ein prosiect. Rydyn ni’n ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n gweithio ar brosiect ymchwil (o’r enw CLASSIC) sy’n anelu at helpu meddygon teulu i nodi pa blant ifanc sydd â haint difrifol ac sydd angen mynd i’r ysbyty a pha blant allai aros gartref yn ddiogel.
Byddai cymryd rhan yn golygu ymuno â 4 cyfarfod ar-lein dros y 18 mis nesaf. Ni fyddai eich plentyn yn rhan o hyn. Bydd y cyfarfodydd yn para tua awr a chynigir £27.50 yr awr i chi am eich amser.
Os oes gennych ddiddordeb neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Kate Lifford, e-bost: Liffordkj@caerdydd.ac.uk, phone: ffôn: 02920 687809, neu cliciwch yma i lenwi’r ffurflen gofrestru ar gyfer astudiaeth CLASSIC – Llenwch y ffurflen.
Efallai na fyddwn ni’n gallu cynnwys pawb sydd â diddordeb mewn cymryd rhan.
