Gweminar:
O dasgau problematig i rolau rhwydd: Cefnogi gofalwyr ifanc fel poblogaeth fawr ond amrywiol.

Cyflwynydd: Ed Janes, Cardiff University

Dyddiad: Dydd Llun 22 Mehefin
Amser: 12:00 – 13:00
Lleoliad: Ar-lein, Teams

Crynodeb

Plant a phobl ifanc sydd â chyfrifoldebau gofalu am aelodau o’r teulu yw gofalwyr ifanc. Wedi’u hystyried yn flaenorol yn grŵp bach â rolau sylweddol sy’n cymryd rhan mewn prosiectau arbenigol i ofalwyr ifanc, mae amcangyfrifon cyffredinrwydd o 17% yng Nghymru (Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, 2023) yn awgrymu y dylen nhw gael eu hymchwilio fel poblogaeth fwy ond mwy amrywiol o ran eu cyfrifoldebau gofalu a’u heffaith.

Bydd y weminar hon yn cynnwys crynodeb o ganlyniadau astudiaeth dulliau cymysg o’r boblogaeth ehangach o ofalwyr ifanc. Yna bydd Ed yn cyflwyno model o’r sbectrwm gofalwyr ifanc sy’n cynnwys effeithiau cyfrifoldebau gofalu sylweddol ond hefyd rolau rhwyddach a sefyllfaoedd gofalu sy’n arbennig o broblematig. Mae’r model hefyd yn ymgorffori’r gwaith o haenu anghenion cymorth sy’n cyfleu amrywiaeth y grŵp yn well.

I gloi’r weminar, bydd cwestiynau allweddol yn cael eu hystyried, gan gynnwys a yw’n bosibl cefnogi’r boblogaeth gyfan o ofalwyr ifanc; gwahanol rolau prosiectau arbenigol, gwasanaethau prif ffrwd a chymorth anffurfiol mewn teuluoedd; a’r her barhaus o wneud hynny pan fydd poblogaeth wedi’i hymylu ac yn gyndyn o ymgysylltu â gwasanaethau.

Bywgraffiad

Ymchwilydd dulliau cymysg yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd yw Ed Janes. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys gofal cymdeithasol plant, gan gynnwys gofalwyr ifanc a mabwysiadu. Mae hefyd wedi gweithio â sefydliadau hawliau plant yn y sector gwirfoddol.