Mae Become yn cynnig nifer o gyrsiau sy’n canolbwyntio ar hawliau i ofalwyr. I gael rhagor o wybodaeth am bob cwrs, cliciwch ar y ddolen i’r cwrs unigol.

Cyflwyniad i Hawliau a Hawlogaethau – Mae’r cwrs hwn yn edrych ar ddeddfwriaeth a’r fframwaith cyfreithiol sy’n ymwneud â phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.

Deall y Broses Gadael Gofal – Mae’r sesiwn hyfforddi hon yn helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall profiadau pobl ifanc a sut mae’r broses o adael gofal yn gweithio.

Cynllunio Llwybrau a Rôl Gofalwyr Maeth – Mae’r hyfforddiant hwn yn edrych ar broses cynllunio llwybrau a’r meysydd sydd fel arfer dan sylw yn y Cynllun Llwybrau.

Sicrhau Hawliau a Hawlogaethau Pobl Ifanc – Mae’r hyfforddiant hwn yn helpu gofalwyr i ddeall y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â hawlogaethau i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.