Comisiynwyd yr adroddiad hwn, a luniwyd gan yr IPC, gan Gofal Cymdeithasol Cymru ar ran Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol.

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried strwythurau cyflog yng ngweithlu gofal cymdeithasol Cymru a sut mae’r rhain yn dylanwadu ar recriwtio a chadw staff. Mae’n ehangu ar y fframwaith cyflog a dilyniant a ddatblygwyd gan y Fforwm Gwaith Teg, a osododd fandiau swyddi (A–E) ar gyfer rolau gofal cymdeithasol plant ac oedolion.